2015 Rhif 1840 (Cy. 268)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 57 a 196(2)(c) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “llety cartref gofal” (“care home accommodation”) yw—
- a
llety mewn cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 20002 pan fo’r llety yng Nghymru neu Loegr;
- b
llety mewn gwasanaeth cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 20103 pan fo’r llety yn yr Alban; neu
- c
llety mewn cartref gofal preswyl o fewn yr ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 20034 pan fo’r llety yng Ngogledd Iwerddon;
- a
ystyr “llety sy’n cael ei ffafrio” (“preferred accommodation”) yw’r llety y mae person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi mynegi ei fod yn ei ffafrio yn unol â rheoliad 2(b).
Y dewis o lety2
Pan fo—
a
awdurdod lleol5 yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 o’r Ddeddf drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal yn y Deyrnas Unedig;
b
y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi mynegi ei fod yn ffafrio cartref gofal penodol; ac
c
yr amodau yn rheoliad 3 wedi eu bodloni,
rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Amodau ar gyfer darparu’r llety sy’n cael ei ffafrio3
1
Rhaid i’r amodau a ganlyn fod wedi eu bodloni ar gyfer darparu llety sy’n cael ei ffafrio o dan reoliad 2—
a
bod y cynllun gofal a chymorth ar gyfer y person yn pennu y gellir diwallu anghenion y person drwy ddarparu llety cartref gofal;
b
bod y llety sy’n cael ei ffafrio yn addas ar gyfer anghenion y person;
c
bod y llety sy’n cael ei ffafrio ar gael; ac
d
os nad yr awdurdod lleol sy’n darparu’r llety sy’n cael ei ffafrio, bod darparwr y llety yn cytuno i ddarparu’r llety i’r person ar delerau’r awdurdod lleol.
2
Os yw’r gost i’r awdurdod lleol am ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn fwy na’r gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal i ddiwallu anghenion y person o dan sylw, rhaid i’r amod cost ychwanegol yn rheoliad 4 hefyd gael ei fodloni6.
Yr amod cost ychwanegol4
1
Mae’r amod cost ychwanegol wedi ei fodloni—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y talwr yn alluog ac yn fodlon i dalu cost ychwanegol y llety sy’n cael ei ffafrio am y cyfnod y mae’r awdurdod lleol yn disgwyl diwallu anghenion y person drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety hwnnw; a
b
bod y talwr yn ymuno gyda’r awdurdod lleol mewn cytundeb ysgrifenedig, lle y mae’r talwr yn cytuno i dalu’r gost ychwanegol.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu i’r talwr fynediad at wybodaeth a chyngor digonol i alluogi’r talwr i ddeall telerau’r cytundeb ysgrifenedig arfaethedig cyn ymuno yn y cytundeb hwnnw.
3
Rhaid i’r cytundeb ysgrifenedig gynnwys—
a
y gost ychwanegol;
b
y gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal i ddiwallu anghenion y person o dan sylw;
c
amlder y taliadau;
d
manylion y person y mae’r taliadau i’w gwneud iddo;
e
darpariaeth ar gyfer adolygu’r cytundeb;
f
darpariaethau ynghylch y materion a bennir ym mharagraff (4).
4
Y materion penodedig yw—
a
canlyniadau peidio â gwneud taliadau;
b
effaith codiadau mewn ffioedd a wneir gan ddarparwr y llety sy’n cael ei ffafrio; ac
c
effaith newidiadau yn amgylchiadau ariannol y talwr.
5
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “y talwr” (“the payer”) yw—
a
person ac eithrio’r person y mae’r llety i’w ddarparu iddo; neu
b
mewn achos y mae paragraff (6) yn gymwys iddo, y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo.
6
Caiff yr awdurdod lleol beidio â chytuno gyda’r person y mae’r llety i’w ddarparu iddo i’r person hwnnw dalu’r gost ychwanegol oni fydd—
a
paragraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 20157 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru yn y 12 wythnos gyntaf) yn gymwys i’r person hwnnw; neu
b
y person a’r awdurdod lleol yn cytuno neu wedi cytuno i ymuno mewn cytundeb ar daliad gohiriedig yn unol ag adran 68 o’r Ddeddf.
7
At ddibenion y rheoliad hwn, caiff y gost ychwanegol sydd i’w thalu gan y talwr fod yn llai na swm llawn y gost ychwanegol y cyfeirir ati yn adran 57(3) o’r Ddeddf, os yw’r awdurdod lleol yn cytuno y dylid talu swm llai.
Gwrthod darparu llety sy’n cael ei ffafrio5
Pan fo awdurdod lleol yn gwrthod darparu neu drefnu i ddarparu llety sy’n cael ei ffafrio rhaid iddo ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi pa un neu pa rai o’r amodau yn rheoliad 3(1) neu reoliad 4(1) nas bodlonwyd ac sy’n pennu’r rhesymau.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)