Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015.
(2)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Hydref 2015
2.
Mae Pennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf yn dod i rym ar 21 Hydref 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
3.
Mae Atodlen 9 i’r Ddeddf yn dod i rym ar 21 Hydref 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 21 Hydref 2015, Bennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (“y Ddeddf”) at ddibenion sy’n weddill.
Mae Pennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yn eu mangreoedd ac ar eu gwefan (os oes ganddynt un). Mae Pennod 3 hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi’r ddyletswydd gan bob awdurdod pwysau a mesurau lleol yng Nghymru.
Daeth Pennod 3 o Ran 3 i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 26 Mawrth 2015 at y dibenion o wneud rheoliadau.
Mae adran 87 (gorfodi dyletswydd asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd) ac Atodlen 9 (dyletswydd asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd: cosbau ariannol) o’r Ddeddf wedi eu cychwyn yn y Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 9 yn darparu gweithdrefn ar gyfer cosbau ariannol a sut i apelio yn eu herbyn.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 89 | 1 Medi 2015 |