Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 23 Tachwedd 2015, ddarpariaethau penodol o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â rheoleiddio tai rhent preifat. Mae Rhan 1 yn cynnwys gofyniad, sy’n ddarostyngedig i eithriadau, i landlordiaid anheddau a osodir, neu sydd i’w gosod, o dan denantiaethau domestig, gofrestru gyda’r awdurdod trwyddedu dynodedig. Yn yr un modd, mae’n ofynnol i asiantau landlordiaid a landlordiaid sy’n ymhél â gosod neu reoli anheddau o’r fath wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am drwydded.
Bydd y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 yn caniatáu i landlordiaid fod wedi eu cofrestru ar ôl cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol i’r awdurdod trwyddedu, ac yn caniatáu i landlordiaid ac asiantau fel ei gilydd wneud ceisiadau am drwyddedau i’r awdurdod trwyddedu. O ran trwyddedau, bydd unrhyw apêl gysylltiedig yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn apêl i dribiwnlys eiddo preswyl. Bydd gan yr awdurdod trwyddedu’r pwerau i brosesu gwybodaeth a gyflwynir, i gofrestru landlordiaid ac i benderfynu ceisiadau am drwyddedau. Mae darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i’r awdurdod trwyddedu yn drosedd.