xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
21 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad ydyw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym yw 23 Tachwedd 2015—
(a)adran 1 (trosolwg o’r Rhan hon);
(b)adran 2 (ystyr y prif dermau);
(c)adran 3 (awdurdod trwyddedu);
(d)adran 14 (dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent) ac Atodlen 1 (cofrestr o dai rhent preifat);
(e)adran 15 (cofrestru gan awdurdod trwyddedu);
(f)adran 16 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);
(g)adran 17 (dirymu cofrestriad);
(h)adran 18 (trwyddedau y caniateir eu rhoi);
(i)adran 19 (gofynion cais am drwydded);
(j)adran 20 (gofyniad person addas a phriodol);
(k)adran 21 (penderfynu ar gais);
(l)adran 22 (amodau trwydded);
(m)adran 23 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);
(n)adran 24 (diwygio trwydded);
(o)adran 25 (dirymu trwydded);
(p)adran 26 (trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu);
(q)adran 27 (apelau trwyddedu);
(r)adran 36 (ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau);
(s)adran 37 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth);
(t)adran 38 (gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth);
(u)adran 39 (gwybodaeth anwir neu gamarweiniol);
(v)adran 45 (landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr);
(w)adran 47 (gwybodaeth am geisiadau);
(x)adran 48 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon); ac
(y)adran 49 (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 23 Tachwedd 2015, ddarpariaethau penodol o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â rheoleiddio tai rhent preifat. Mae Rhan 1 yn cynnwys gofyniad, sy’n ddarostyngedig i eithriadau, i landlordiaid anheddau a osodir, neu sydd i’w gosod, o dan denantiaethau domestig, gofrestru gyda’r awdurdod trwyddedu dynodedig. Yn yr un modd, mae’n ofynnol i asiantau landlordiaid a landlordiaid sy’n ymhél â gosod neu reoli anheddau o’r fath wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am drwydded.
Bydd y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 yn caniatáu i landlordiaid fod wedi eu cofrestru ar ôl cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol i’r awdurdod trwyddedu, ac yn caniatáu i landlordiaid ac asiantau fel ei gilydd wneud ceisiadau am drwyddedau i’r awdurdod trwyddedu. O ran trwyddedau, bydd unrhyw apêl gysylltiedig yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn apêl i dribiwnlys eiddo preswyl. Bydd gan yr awdurdod trwyddedu’r pwerau i brosesu gwybodaeth a gyflwynir, i gofrestru landlordiaid ac i benderfynu ceisiadau am drwyddedau. Mae darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i’r awdurdod trwyddedu yn drosedd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adrannau 5 i 8 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 10 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 12 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adrannau 14 i 16 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adrannau 19 i 21 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 23 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 29 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 34 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adrannau 40 i 42 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 46 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 49 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 50 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 50 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 51 i 56 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 57 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 57 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 58 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 59 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 59 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 60 i 63 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 64 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 64 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 65 i 71 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 72 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 72 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 73 i 74 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 75(1), (2) a (4) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 76 i 77 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 78 (at ddiben gwneud Gorchmynion, Rheoliadau a Chyfarwyddydau) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 78(2) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 79 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 80 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 80 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 81 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 81 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 82 i 85 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 86 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 86 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 87 i 94 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 95 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 95 (at bob diben sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 96 i 97 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 98 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 98 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 99 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 99 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adran 100 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Adrannau 101 i 102 | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
| Adran 105 | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
| Adran 106 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill) | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
| Adrannau 107 i 110 | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
| Adrannau 111 i 128 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 131(4)(c) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 137 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 140 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Adran 144 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
| Atodlen 2 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Rhan 1 o Atodlen 3 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
| Rhan 2 o Atodlen 3 | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.