2015 Rhif 1826 (Cy. 266) (C. 114)
Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 20141, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
Y diwrnod penodedig2
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad ydyw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym yw 23 Tachwedd 2015—
a
adran 1 (trosolwg o’r Rhan hon);
b
adran 2 (ystyr y prif dermau);
c
adran 3 (awdurdod trwyddedu);
d
adran 14 (dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent) ac Atodlen 1 (cofrestr o dai rhent preifat);
e
adran 15 (cofrestru gan awdurdod trwyddedu);
f
adran 16 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);
g
adran 17 (dirymu cofrestriad);
h
adran 18 (trwyddedau y caniateir eu rhoi);
i
adran 19 (gofynion cais am drwydded);
j
adran 20 (gofyniad person addas a phriodol);
k
adran 21 (penderfynu ar gais);
l
adran 22 (amodau trwydded);
m
adran 23 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);
n
adran 24 (diwygio trwydded);
o
adran 25 (dirymu trwydded);
p
adran 26 (trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu);
q
adran 27 (apelau trwyddedu);
r
adran 36 (ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau);
s
adran 37 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth);
t
adran 38 (gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth);
u
adran 39 (gwybodaeth anwir neu gamarweiniol);
v
adran 45 (landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr);
w
adran 47 (gwybodaeth am geisiadau);
x
adran 48 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon); ac
y
adran 49 (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adrannau 5 i 8 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 10 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 12 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adrannau 14 i 16 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adrannau 19 i 21 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 23 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 29 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 34 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adrannau 40 i 42 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 46 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 49 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 50 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 50 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 51 i 56 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 57 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 57 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 58 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 59 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 60 i 63 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 64 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 64 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 65 i 71 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 72 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 72 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 73 i 74 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 75(1), (2) a (4) | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 76 i 77 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 78 (at ddiben gwneud Gorchmynion, Rheoliadau a Chyfarwyddydau) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 78(2) | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 79 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 80 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 80 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 81 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 81 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 82 i 85 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 86 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 86 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 87 i 94 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 95 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 95 (at bob diben sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 96 i 97 | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 98 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 98 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 99 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 99 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Adran 100 | 27 Ebrill 2015 | |
Adrannau 101 i 102 | 25 Chwefror 2015 | |
Adran 105 | 25 Chwefror 2015 | |
Adran 106 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill) | 25 Chwefror 2015 | |
Adrannau 107 i 110 | 25 Chwefror 2015 | |
Adrannau 111 i 128 | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 131(4)(c) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 137 | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 140 | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | |
Adran 144 | 1 Rhagfyr 2014 | |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | |
Atodlen 2 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | |
Rhan 1 o Atodlen 3 | 27 Ebrill 2015 | |
Rhan 2 o Atodlen 3 | 25 Chwefror 2015 |
Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.