Y diwrnod penodedig2.
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad ydyw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym yw 23 Tachwedd 2015—
(a)
adran 1 (trosolwg o’r Rhan hon);
(b)
adran 2 (ystyr y prif dermau);
(c)
adran 3 (awdurdod trwyddedu);
(d)
adran 14 (dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent) ac Atodlen 1 (cofrestr o dai rhent preifat);
(e)
adran 15 (cofrestru gan awdurdod trwyddedu);
(f)
adran 16 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);
(g)
adran 17 (dirymu cofrestriad);
(h)
adran 18 (trwyddedau y caniateir eu rhoi);
(i)
adran 19 (gofynion cais am drwydded);
(j)
adran 20 (gofyniad person addas a phriodol);
(k)
adran 21 (penderfynu ar gais);
(l)
adran 22 (amodau trwydded);
(m)
adran 23 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);
(n)
adran 24 (diwygio trwydded);
(o)
adran 25 (dirymu trwydded);
(p)
adran 26 (trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu);
(q)
adran 27 (apelau trwyddedu);
(r)
adran 36 (ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau);
(s)
adran 37 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth);
(t)
adran 38 (gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth);
(u)
adran 39 (gwybodaeth anwir neu gamarweiniol);
(v)
adran 45 (landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr);
(w)
adran 47 (gwybodaeth am geisiadau);
(x)
adran 48 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon); ac
(y)
adran 49 (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio).