Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 16 Rhagfyr 2015.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y brif Ddeddf” (“the principal Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
ystyr “y Ddeddf Sylweddau Peryglus” (“the Hazardous Substances Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;
Dosbarthau o apelau sydd i’w penderfynu gan bersonau penodedig3.
(1)
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r dosbarthau o apelau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o Atodlen 6 i’r brif Ddeddf fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru—
(a)
(b)
apelau o dan adran 174 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi);
(c)
apelau o dan adran 195 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath);
(d)
apelau o dan adran 208 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau adran 207– ailosod coed);
(e)
(f)
(2)
Mae’r dosbarthau o apelau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru—
(a)
apelau o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (cydsyniad adeilad rhestredig), gan gynnwys apelau o dan yr adran honno sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 74 o’r Ddeddf honno (ardaloedd cadwraeth); a
(b)
apelau o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (hysbysiadau gorfodi adeilad rhestredig), gan gynnwys apelau o dan yr adran honno sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 74 o’r Ddeddf honno.
(3)
Mae apelau o dan adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (apelau yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â sylweddau peryglus neu fethiant i wneud penderfyniadau o’r fath) wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
Dosbarthau o apelau a gedwir yn ôl i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru4.
(1)
Nid yw rheoliad 3 yn gymwys i’r dosbarthau o apelau a ganlyn—
(a)
(b)
apelau o dan adran 174 o’r brif Ddeddf gan ymgymerwyr statudol pan fo’r torri rheolaeth gynllunio a honnir yn yr hysbysiad gorfodi yn cynnwys ymgymryd â datblygiad ar dir y mae adran 266 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo, neu fethiant i gydymffurfio ag amod neu gyfyngiad sydd ynghlwm wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu unrhyw dir o’r fath; neu
(c)
apelau y mae Gweinidogion Cymru neu’r Gweinidog priodol wedi rhoi cyfarwyddyd i adran 266 o’r brif Ddeddf gael effaith mewn perthynas â hwy (ac nad yw’r cyfarwyddyd wedi ei ddirymu).
Cyhoeddusrwydd ar gyfer cyfarwyddydau5.
(1)
Os gwneir cyfarwyddyd o dan—
(a)
paragraff 1(2) o Atodlen 6 i’r brif Ddeddf;
(b)
paragraff 1(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig; neu
(c)
paragraff 1(2) o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus,
caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer pob ardal y mae’r cyfarwyddyd yn cael effaith mewn cysylltiad â hi gyhoeddi hysbysiad o’r cyfarwyddyd mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—
(a)
datganiad cryno o effaith y cyfarwyddyd; a
(b)
manylion ynghylch ble y gellir edrych ar gopi o’r cyfarwyddyd.
Dirymu ac arbed6.
(1)
Mae Rheoliadau 1997 wedi eu dirymu ac eithrio mewn perthynas ag apelau y rhoddwyd hysbysiad mewn cysylltiad â hwy cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2)
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn cysylltiad ag apelau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) 1997, o ran Cymru.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r dosbarthau o apelau a wneir o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 sydd i’w penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na’u penderfynu gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 4 yn rhagnodi dosbarthau penodol o achosion, o fewn y dosbarthau o apelau a ragnodir o dan reoliad 3, sydd i barhau i gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth am gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n pennu’r dosbarthau o achosion, o fewn y dosbarthau o apelau yn rheoliad 3, sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth dirymu ac arbed.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.