Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1822 (Cy. 264)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015

Gwnaed

20 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Hydref 2015

Yn dod i rym

16 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi, adran 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(2) a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi ac adran 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990(3) a pharagraff 1 o’r Atodlen iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(4), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 16 Rhagfyr 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y brif Ddeddf” (“the principal Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

ystyr “y Ddeddf Sylweddau Peryglus” (“the Hazardous Substances Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;

ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthiadau Rhagnodedig) 1997(5);

ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(6); ac

ystyr “ymgymerwyr statudol” yw ymgymerwyr statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory undertakers” yn adran 262 o’r brif Ddeddf a phersonau eraill y bernir eu bod, yn rhinwedd is-adran (3) neu (6) o’r adran honno(7), yn ymgymerwyr statudol at ddibenion adran 266 o’r Ddeddf honno.

Dosbarthau o apelau sydd i’w penderfynu gan bersonau penodedig

3.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r dosbarthau o apelau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o Atodlen 6 i’r brif Ddeddf fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru—

(a)apelau o dan adran 78 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), gan gynnwys apelau o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(8) (apelau yn erbyn gwrthod cais am gydsyniad datganedig i arddangos hysbysiad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath) ac apelau o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 198(3)(c) a (4) o’r brif Ddeddf (apelau yn ymwneud â gorchmynion cadw coed);

(b)apelau o dan adran 174 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi);

(c)apelau o dan adran 195 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath);

(d)apelau o dan adran 208 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau adran 207– ailosod coed);

(e)apelau o dan baragraff 11(1) o Atodlen 13 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(9) (apelau yn erbyn penderfynu ar amodau i’w hatodi i ganiatadau mwynau), gan gynnwys apelau o dan y darpariaethau hynny fel y’u cymhwysir gan reoliad 45 o Reoliadau 2009 (apelau yn erbyn methiant i benderfynu); ac

(f)apelau o dan baragraff 5 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991(10) (apelau yn ymwneud â hen ganiatadau mwyngloddio), gan gynnwys apelau o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan reoliad 45 o Reoliadau 2009.

(2Mae’r dosbarthau o apelau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru—

(a)apelau o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (cydsyniad adeilad rhestredig), gan gynnwys apelau o dan yr adran honno sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 74 o’r Ddeddf honno (ardaloedd cadwraeth); a

(b)apelau o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (hysbysiadau gorfodi adeilad rhestredig), gan gynnwys apelau o dan yr adran honno sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 74 o’r Ddeddf honno.

(3Mae apelau o dan adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (apelau yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â sylweddau peryglus neu fethiant i wneud penderfyniadau o’r fath) wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Dosbarthau o apelau a gedwir yn ôl i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru

4.—(1Nid yw rheoliad 3 yn gymwys i’r dosbarthau o apelau a ganlyn—

(a)apelau o dan adran 78 o’r brif Ddeddf gan ymgymerwyr statudol pan oedd y cais perthnasol yn ymwneud â thir y mae adran 266 o’r Ddeddf honno(11) (ceisiadau am ganiatâd cynllunio gan ymgymerwyr statudol) yn gymwys;

(b)apelau o dan adran 174 o’r brif Ddeddf gan ymgymerwyr statudol pan fo’r torri rheolaeth gynllunio a honnir yn yr hysbysiad gorfodi yn cynnwys ymgymryd â datblygiad ar dir y mae adran 266 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo, neu fethiant i gydymffurfio ag amod neu gyfyngiad sydd ynghlwm wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu unrhyw dir o’r fath; neu

(c)apelau y mae Gweinidogion Cymru neu’r Gweinidog priodol wedi rhoi cyfarwyddyd i adran 266 o’r brif Ddeddf gael effaith mewn perthynas â hwy (ac nad yw’r cyfarwyddyd wedi ei ddirymu).

Cyhoeddusrwydd ar gyfer cyfarwyddydau

5.—(1Os gwneir cyfarwyddyd o dan—

(a)paragraff 1(2) o Atodlen 6 i’r brif Ddeddf;

(b)paragraff 1(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig; neu

(c)paragraff 1(2) o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus,

caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer pob ardal y mae’r cyfarwyddyd yn cael effaith mewn cysylltiad â hi gyhoeddi hysbysiad o’r cyfarwyddyd mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal.

(2Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—

(a)datganiad cryno o effaith y cyfarwyddyd; a

(b)manylion ynghylch ble y gellir edrych ar gopi o’r cyfarwyddyd.

Dirymu ac arbed

6.—(1Mae Rheoliadau 1997 wedi eu dirymu ac eithrio mewn perthynas ag apelau y rhoddwyd hysbysiad mewn cysylltiad â hwy cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn cysylltiad ag apelau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) 1997, o ran Cymru.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r dosbarthau o apelau a wneir o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 sydd i’w penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na’u penderfynu gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi dosbarthau penodol o achosion, o fewn y dosbarthau o apelau a ragnodir o dan reoliad 3, sydd i barhau i gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth am gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n pennu’r dosbarthau o achosion, o fewn y dosbarthau o apelau yn rheoliad 3, sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth dirymu ac arbed.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

(1)

1990 p. 8; diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 6 gan baragraff 44 o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a chan adran 198(1) a (2)(a) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29).

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a gweler adran 118(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(7)

Diwygiwyd adran 262 gan O.S. 2001/1149, adran 76(7) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27), O.S. 2013/755 ac adran 37 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38) a pharagraff 6(1), (2), (3) a (4) o Atodlen 5 iddi, adrannau 31 ac 84 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraff 22 o Atodlen 6 a Rhan II o Atodlen 19 iddi.

(11)

Diwygiwyd adran 266 o’r brif Ddeddf gan O.S. [insert Section 203 Order number when made] ac adrannau 32 ac 84 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraff 40 o Atodlen 7 a Rhan I o Atodlen 19 iddi.