2015 Rhif 1821 (Cy. 263)
Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 23 Tchwedd 2015.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau3 mewn cysylltiad â mangreoedd yng Nghymru.
Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 20122
Mae Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 20124 wedi eu diwygio yn unol â’r Atodlen.
YR ATODLENDiwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012
1
Yn rheoliad 2—
a
b
yn y diffiniad o “cais”—
i
ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu”;
ii
ar ddiwedd paragraff (ch), yn lle “,” rhodder “;”; a
iii
ar ôl paragraff (ch), mewnosoder—
d
adrannau 17(4) neu 27(1) o Ddeddf 2014; neu
dd
Deddf 2015,
c
yn y mannau priodol mewnosoder—
mae i “asiant gosod”, mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2015, yr un ystyr â “letting agent” yn adran 84 o Ddeddf 2015;
mae i “awdurdod pwysau a mesurau lleol” mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2015, yr un ystyr â “local weights and measures authority” yn adran 69(2) o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985;
mae i “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yr un ystyr ag yn adran 49(1) o Ddeddf 2014;
mae i “landlord” (“landlord”), at ddibenion ceisiadau o dan adrannau 17(4) neu 27(1) o Ddeddf 2014, yr un ystyr ag yn adran 2(1) o’r Ddeddf honno;
d
yn y diffiniad o “mangre”—
i
ym mharagraff (a) ar ôl “Deddf 2013” mewnosoder “neu Ddeddf 2015” ac ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer y gair “a”;
ii
ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder y gair “ac”; a
iii
ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
c
mewn cais a wneir o dan Ddeddf 2015, unrhyw fangre y dylai cyhoeddusrwydd fod wedi ei roi yno i ffi’r asiant gosod y mae cais yn ymwneud â hi;
2
Yn rheoliad 4(1), ar ôl “Deddf 2013,” mewnosoder “Deddf 2014”.
3
Yn rheoliad 14(1)—
a
ar ddiwedd is-baragraff (b)(ii) yn lle “.” rhodder “;”;
b
ar ôl is-baragraff (b)(ii) mewnosoder—
c
yn achos cais a wnaed o dan Ddeddf 2014—
i
yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un landlord;
ii
yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un annedd; neu
iii
yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un asiant sydd wedi ei drwyddedu o dan adran 9 neu adran 11 o Ddeddf 2014;
ch
yn achos cais a wnaed o dan Ddeddf 2015 yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un asiant gosod.
4
Yn rheoliad 40(5), ar ôl “Deddf 2013” mewnosoder “, Deddf 2014, Deddf 2015”.
5
Ar ôl rheoliad 47, mewnosoder—
47AFfioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014
Yn ddarostyngedig i reoliad 49(2) mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 2014—
a
adran 17(4) (dirymu cofrestriad);
b
adran 27(1) (apelau trwyddedu).
47BFfioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015
Yn ddarostyngedig i reoliad 49(2) mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015.
6
Yn rheoliad 48, yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.
7
Yn rheoliad 49—
a
ym mharagraff (1), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”; a
b
ym mharagraff (2), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.
8
Yn rheoliad 50(1), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.
9
Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 72 mewnosoder—
Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014
73Ceisiadau sy’n ymwneud â dirymu cofrestriad landlord
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais a wneir o dan adran 17(4) o Ddeddf 2014 (apêl yn erbyn dirymu cofrestriad).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
copi o’r hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;
b
unrhyw sylwadau a wnaed gan y landlord mewn ymateb i hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad;
c
copi o’r hysbysiad sy’n dirymu cofrestriad y landlord a’r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu; ac
ch
unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
3
Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod trwyddedu.
74Ceisiadau sy’n ymwneud ag apelau trwyddedu
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 27(1) o Ddeddf 2014.
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
copi o’r hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio neu ddirymu’r drwydded neu i wneud y drwydded yn ddarostyngedig i amod, yn ôl y digwydd, a’r rhesymau dros ei benderfyniad;
b
unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb i hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio neu ddirymu’r drwydded;
c
copi o’r hysbysiad sy’n gwneud y drwydded yn ddarostyngedig i amod (ac eithrio gofyniad i gydymffurfio â chod ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru), sy’n gwrthod rhoi, sy’n diwygio neu’n dirymu’r drwydded, yn ôl y digwydd, a’r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu; ac
ch
unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
3
Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod trwyddedu.
Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015
75Ceisiadau sy’n ymwneud â hysbysiadau terfynol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais a wneir o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015 (apêl yn erbyn cosb ariannol).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
copi o’r hysbysiad o fwriad a gyflwynwyd i’r asiant gosod gan yr awdurdod pwysau a mesurau lleol o dan baragraff 1(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 2015;
b
copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan yr asiant gosod ar ôl cael yr hysbysiad o fwriad a ddyroddwyd o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015;
c
copi o’r hysbysiad terfynol a gyflwynwyd i’r asiant gosod gan yr awdurdod pwysau a mesurau lleol o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015; ac
ch
unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
3
Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod pwysau a mesurau lleol perthnasol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)