Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Rhagolygol

Cyswllt â phlentyn mewn gofalLL+C

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol a’r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu, o dan adran 34(6) o Ddeddf 1989 (gwrthod cyswllt fel mater brys), gwrthod caniatáu cyswllt a fyddai, fel arall, wedi bod yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1) o Ddeddf 1989(1) neu orchymyn o dan adran 34 o’r Ddeddf honno (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, ar unwaith, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r personau canlynol o’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) (“yr wybodaeth benodedig”)—

(a)C, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)P,

(c)os oedd person, yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, yn gofalu am C yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant, y person hwnnw,

(d)unrhyw berson arall yr ystyrir gan yr awdurdod cyfrifol fod ei safbwyntiau, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol, ac

(e)yr SAA.

(3Yr wybodaeth benodedig yw—

(a)penderfyniad yr awdurdod cyfrifol;

(b)dyddiad y penderfyniad;

(c)y rhesymau am y penderfyniad;

(d)parhad y penderfyniad (os yw’n gymwys); ac

(e)y rhwymedïau sydd ar gael mewn achos o anfoddhad.

(4Caiff yr awdurdod cyfrifol wyro oddi wrth delerau unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 34 o Ddeddf 1989 drwy gytundeb gyda’r person y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef, ar yr amod—

(a)bod C hefyd yn cytuno a bod ei oedran a’i ddealltwriaeth yn ddigonol, a

(b)yr anfonir hysbysiad ysgrifenedig o’r wybodaeth benodedig o fewn 5 diwrnod gwaith at y personau a restrir ym mharagraff (2).

(5Pan fo’r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu amrywio neu atal dros dro unrhyw drefniadau (ac eithrio o dan orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989) a wnaed gyda’r bwriad o ganiatáu i unrhyw berson gael cyswllt ag C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, ar unwaith, roi hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys yr wybodaeth benodedig i’r personau a restrir ym mharagraff (2).

(6Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi unrhyw benderfyniad a wneir o dan y rheoliad hwn yng nghynllun gofal a chymorth C.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Diwygiwyd adran 34(1) o Ddeddf 1989 gan adran 139(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) a pharagraffau 54 a 59 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.