RHAN 2Trefniadau ar gyfer gofalu am blentyn
Paratoad a chynnwys y cynllun gofal a chymorth6.
(1)
Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gadw cynllun gofal a chymorth C o dan adolygiad yn unol â Rhan 6, ac os bydd o’r farn bod angen gwneud rhyw newid, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny.
(2)
Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â gwneud unrhyw newid sylweddol yn y cynllun gofal a chymorth, oni fydd y newid arfaethedig wedi ei ystyried yn gyntaf mewn adolygiad o achos C, a gyflawnwyd yn unol â Rhan 6.
(3)
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi copi o’r cynllun gofal a chymorth—
(a)
i C, oni bai, ym marn yr awdurdod cyfrifol, na fyddai’n briodol gwneud hynny, o ystyried oedran a dealltwriaeth C,
(b)
i P,
(c)
i’r SAA,
(d)
os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, gydag F, i’r darparwr gwasanaeth maethu a gymeradwyodd F, yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011,
(e)
os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, mewn cartref plant, i’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â’r cartref hwnnw, ac
(f)
os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, i’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety.