xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rhagolygol

RHAN 2LL+CTrefniadau ar gyfer gofalu am blentyn

Paratoad a chynnwys y cynllun gofal a chymorthLL+C

5.—(1Rhaid i’r cynllun gofal a chymorth gynnwys cofnod o’r wybodaeth ganlynol—

(a)y cynllun hirdymor ar gyfer magwraeth C (“y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd”);

(b)y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol i ddiwallu anghenion C mewn perthynas ag—

(i)iechyd, gan gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (“y cynllun iechyd”),

(ii)addysg a hyfforddiant, gan gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 (“y cynllun addysg personol”),

(iii)datblygiad emosiynol ac ymddygiadol,

(iv)hunaniaeth, gan roi sylw penodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C,

(v)perthnasoedd teuluol a chymdeithasol ac yn benodol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 2,

(vi)ymgyflwyniad cymdeithasol, a

(vii)sgiliau hunanofal;

(c)ac eithrio mewn achos pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, ond na ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol mewn unrhyw un o’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn adran 81 o Ddeddf 2014, manylion o’r trefniadau a wnaed a’r llety a ddarparwyd ar gyfer C (“y cynllun lleoli”);

(d)enw’r SAA;

(e)manylion am safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau hynny a ganfuwyd ac a ystyriwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol ag adrannau 6(2) a (4), 7(2) a 78(3) o Ddeddf 2014 ynghylch y trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b), y cynllun lleoli ac unrhyw newid neu newid arfaethedig yn y cynllun gofal a chymorth;

(f)pan fo C yn—

(i)dioddefwr, neu pan fo rheswm i gredu y gallai C fod yn ddioddefwr masnachu mewn bodau dynol yn yr ystyr a roddir i “trafficking in human beings” yng Nghonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Bodau Dynol,

(ii)plentyn ar ei ben ei hunan yn ceisio lloches yn yr ystyr a roddir i “unaccompanied asylum seeking child” yn y Rheolau Mewnfudo, ac wedi gwneud cais, neu wedi dynodi wrth yr awdurdod cyfrifol ei fwriad i wneud cais, a heb gael caniatâd amhenodol i aros,

y ffaith honno.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheolau Mewnfudo” (“Immigration Rules”) yw’r rheolau a bennir ar y pryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel y crybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)