RHAN 7Trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn
Personau ifanc categori 1
Asesu anghenion49
1
Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gwblhau’r asesiad o anghenion C yn unol ag adran 107(1) o Ddeddf 2014 o fewn dim mwy na 3 mis ar ôl y dyddiad y mae C yn cyrraedd 16 oed neu’n dod yn berson ifanc categori 1 ar ôl yr oedran hwnnw.
2
Wrth wneud ei asesiad o anghenion tebygol C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd i ystyriaeth y materion canlynol—
a
cyflwr iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ddatblygiad;
b
angen parhaus C am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;
c
os yw C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), unrhyw anghenion sydd gan C o ganlyniad i’r statws hwnnw;
d
y cymorth a fydd ar gael i C gan ei rieni a phersonau cysylltiedig eraill;
e
pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol—
i
a yw C ac F wedi penderfynu eu bod yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-1856, neu
ii
pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei darparu i C ac F i’w cynorthwyo i wneud penderfyniad o’r fath;
f
adnoddau ariannol presennol a disgwyliedig C a’i allu i reoli ei adnoddau ariannol personol yn annibynnol;
g
i ba raddau y mae C yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol;
h
angen C am ofal parhaus, cymorth a llety;
i
safbwyntiau, dymuniadau a theimladau—
i
C,
ii
unrhyw riant i C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,
iii
y person priodol;
j
safbwyntiau—
i
unrhyw berson neu sefydliad addysgol sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, ac os oes gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod cyfrifol sy’n cynnal y datganiad,
ii
yr SAA,
iii
unrhyw berson sy’n darparu gofal neu driniaeth iechyd (pa un ai iechyd corfforol, meddyliol neu emosiynol) neu ofal neu driniaeth ddeintyddol i C,
iv
y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C a
v
unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau yn berthnasol, gan yr awdurdod cyfrifol neu gan C.