xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rhagolygol

RHAN 7LL+CTrefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn

Personau ifanc categori 1LL+C

Asesu anghenionLL+C

49.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gwblhau’r asesiad o anghenion C yn unol ag adran 107(1) o Ddeddf 2014 o fewn dim mwy na 3 mis ar ôl y dyddiad y mae C yn cyrraedd 16 oed neu’n dod yn berson ifanc categori 1 ar ôl yr oedran hwnnw.

(2Wrth wneud ei asesiad o anghenion tebygol C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd i ystyriaeth y materion canlynol—

(a)cyflwr iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ddatblygiad;

(b)angen parhaus C am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;

(c)os yw C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), unrhyw anghenion sydd gan C o ganlyniad i’r statws hwnnw;

(d)y cymorth a fydd ar gael i C gan ei rieni a phersonau cysylltiedig eraill;

(e)pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol—

(i)a yw C ac F wedi penderfynu eu bod yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18(1), neu

(ii)pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei darparu i C ac F i’w cynorthwyo i wneud penderfyniad o’r fath;

(f)adnoddau ariannol presennol a disgwyliedig C a’i allu i reoli ei adnoddau ariannol personol yn annibynnol;

(g)i ba raddau y mae C yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol;

(h)angen C am ofal parhaus, cymorth a llety;

(i)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau—

(i)C,

(ii)unrhyw riant i C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,

(iii)y person priodol;

(j)safbwyntiau—

(i)unrhyw berson neu sefydliad addysgol sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, ac os oes gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod cyfrifol sy’n cynnal y datganiad,

(ii)yr SAA,

(iii)unrhyw berson sy’n darparu gofal neu driniaeth iechyd (pa un ai iechyd corfforol, meddyliol neu emosiynol) neu ofal neu driniaeth ddeintyddol i C,

(iv)y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C a

(v)unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau yn berthnasol, gan yr awdurdod cyfrifol neu gan C.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 49 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Diffinnir “trefniant byw ôl-18” yn adran 108(3) o Ddeddf 2014. Mae dyletswydd ar yr awdurdod cyfrifol i ganfod a yw unrhyw C, sy’n berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gydag F, yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18 ar ôl i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben (gweler adran 108(2) o Ddeddf 2014), ac i hwyluso trefniant o’r fath os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n gyson â llesiant C (gweler adran 108(4) a (5) o’r Ddeddf honno).