Rhagolygol
Cynllunio gofalLL+C
4.—(1) Os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac os nad oes cynllun gofal a chymorth eisoes wedi ei baratoi ar gyfer C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol asesu anghenion C am wasanaethau er mwyn cyrraedd neu gynnal safon resymol o iechyd neu ddatblygiad, a pharatoi cynllun o’r fath(1).
(2) Pan fo gan C gynllun gofal a chymorth a baratowyd yn unol ag adran 54 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, yn ei asesiad o dan baragraff (1), gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth a gofnodir yn y cynllun hwnnw.
(3) Ac eithrio yn achos plentyn y mae adran 31A o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) yn gymwys iddo(2), rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth cyn bo C yn cael ei leoli am y tro cyntaf gan yr awdurdod cyfrifol neu, os nad yw hynny’n ymarferol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf.
(4) Wrth asesu anghenion C o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried a yw’r llety a ddarperir ar gyfer C yn bodloni gofynion Rhan 6 o Ddeddf 2014.
(5) Onid yw paragraff (6) yn gymwys, dylai’r awdurdod cyfrifol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, gytuno ar y cynllun gofal a chymorth gydag—
(a)unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, neu
(b)os nad oes person o’r fath, y person a oedd yn gofalu am C yn union cyn trefnu lleoliad ar gyfer C gan yr awdurdod cyfrifol.
(6) Pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn, ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gytuno ar y cynllun gofal a chymorth gydag C.
(7) Pan fo cynllun gofal a chymorth a baratoir yn unol â’r Rhan hon yn bodloni’r gofynion ar gyfer cynllun gofal sy’n ofynnol gan adran 31A o Ddeddf 1989, caniateir ei drin fel “cynllun adran 31A”.
(8) Os lleolwyd C gyntaf gan yr awdurdod cyfrifol cyn 6 Ebrill 2016 rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Mae hyn yn cynnwys cynllun a baratoir o dan adran 31A o Ddeddf 1989.
Yn achos plentyn y mae adran 31A yn gymwys iddo, bydd y llys yn gosod amserlen, y bydd rhaid paratoi’r cynllun gofal oddi mewn iddi.