Rhagolygol

RHAN 6LL+CAdolygiadau o achos y plentyn

Amseru adolygiadauLL+C

39.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C am y tro cyntaf o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y dechreuodd C dderbyn gofal.

(2Rhaid cynnal yr ail adolygiad ar ôl ysbaid o ddim mwy na thri mis ar ôl y cyntaf, a rhaid cynnal adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.

(3Nid oes dim yn rheoliad hwn sy’n rhwystro’r awdurdod cyfrifol rhag cynnal adolygiad cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2), a rhaid iddo wneud hynny—

(a)os yw’r awdurdod cyfrifol yn tybio bod C yn absennol, neu wedi bod yn absennol yn fynych, o’r lleoliad,

(b)os hysbysir yr awdurdod cyfrifol gan y person priodol, P neu’r awdurdod ardal ynghylch pryder bod C mewn perygl o niwed,

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw C yn gofyn iddo,

(d)os yw’r SAA yn gofyn iddo,

(e)os yw rheoliad 33 yn gymwys,

(f)os darparwyd llety i C o dan adran 77(2)(b) neu (c) o Ddeddf 2014 ac na fyddai adolygiad yn digwydd fel arall cyn bo C yn peidio â chael ei ddarparu â llety felly,

(g)os yw C yng ngofal yr awdurdod ac o dan gadwad, ac na fyddai adolygiad yn digwydd fel arall cyn bo C yn peidio â bod dan gadwad felly, neu

(h)os yw C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac—

(i)yr awdurdod cyfrifol yn bwriadu peidio â darparu llety i C, a

(ii)na fydd llety’n cael ei ddarparu ar gyfer C wedyn gan rieni C (neu un ohonynt) nac ychwaith gan unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,

(i)os yw C yn rhan o deulu yr atgyfeiriwyd ei achos at dîm integredig cymorth i deuluoedd, a’r teulu wedi ei hysbysu y bydd tîm o’r fath yn cynorthwyo ei achos.

(4Ni wneir yn ofynnol bod yr awdurdod cyfrifol yn cynnal adolygiad yn unol â pharagraff (3)(c) os yw’r SAA o’r farn na ellir cyfiawnhau cynnal adolygiad cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 39 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)