Rhagolygol
Amlder yr ymweliadauLL+C
31.—(1) Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod ei gynrychiolydd (“R”) yn ymweld ag C yn unol â’r rheoliad hwn, lle bynnag y bo C yn byw.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o fewn un wythnos ar ôl dechrau unrhyw leoliad,
(b)fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf unrhyw leoliad, ac
(c)wedi hynny—
(i)os bwriedir i’r lleoliad barhau hyd nes bo C yn 18 oed, fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis, a
(ii)mewn unrhyw achos arall, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
(3) Pan fo rheoliad 20 yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a
(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
(4) Pan fo rheoliad 26 yn gymwys, neu pan fo gorchymyn gofal interim wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 38 o Ddeddf 1989 (gorchmynion interim) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a
(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 4 wythnos.
(5) Pan fo gorchymyn gofal wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 31 o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal a goruchwylio) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o fewn un wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn gofal, a
(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
(6) Pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ond person arall sy’n gyfrifol am y trefniadau y mae C yn byw oddi tanynt am y tro (“trefniadau byw C”), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o fewn un wythnos ar ôl dechrau trefniadau byw C ac o fewn un wythnos ar ôl unrhyw newid yn nhrefniadau byw C,
(b)fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos am y flwyddyn gyntaf wedi hynny, ac
(c)fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis mewn unrhyw flwyddyn ddilynol.
(7) Yn ychwanegol at ymweliadau yn unol â pharagraffau (2) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)pa bryd bynnag y gofynnir iddo wneud hynny yn rhesymol gan—
(i)C,
(ii)pan fo paragraffau (2), (3) neu (4) yn gymwys, y person priodol, neu
(iii)pan fo paragraff (5) yn gymwys, y person sy’n gyfrifol am drefniadau byw C,
(b)o fewn un wythnos ar ôl cael hysbysiad o dan adran 30A(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) (hysbysiad ynghylch materion yn ymwneud â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliadau neu asiantaethau penodol), am y tro cyntaf, pan gyfeirir yn yr hysbysiad at y cartref plant y lleolir C ynddo am y tro.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 31 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Mewnosodwyd adran 30A gan adran 29 o Ddeddf 2008.
