Rhagolygol
Cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maethLL+C
28.—(1) Os bodlonir yr awdurdod cyfrifol—
(a)mai’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C yw gyda pherson nad yw wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, ond mai’r person hwnnw yw’r darpar fabwysiadydd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu (“A”), a
(b)y byddai lleoli C gydag A er budd pennaf C,
caiff yr awdurdod cyfrifol gymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol am gyfnod dros dro (“y cyfnod cymeradwyo dros dro”) ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn cydymffurfio yn gyntaf â gofynion paragraff (2).
(2) Cyn cymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)asesu addasrwydd A i ofalu am C fel rhiant maeth, a
(b)ystyried a fydd y trefniadau arfaethedig, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth.
(3) Bydd y cyfnod cymeradwyo dros dro yn dod i ben—
(a)pan derfynir lleoliad C gydag A gan yr awdurdod cyfrifol;
(b)pan derfynir cymeradwyaeth A fel darpar fabwysiadydd;
(c)pan gymeradwyir A fel rhiant maeth yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011;
(d)os yw A wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod cyfrifol nad yw A bellach yn dymuno cael ei gymeradwyo dros dro fel rhiant maeth mewn perthynas ag C, a bydd hynny’n cael effaith 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod cyfrifol yr hysbysiad; neu
(e)pan leolir C ar gyfer ei fabwysiadu gydag A yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 28 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)