Rhagolygol
Cymeradwyaeth dros dro yn dod i benLL+C
27.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y gymeradwyaeth dros dro ar gyfer person cysylltiedig—
(a)os yw’r gymeradwyaeth dros dro yn debygol o ddod i ben cyn bo’r broses asesu lawn wedi ei chwblhau, neu
(b)os nad yw’r person cysylltiedig, ar ôl sefyll y broses asesu lawn, wedi ei gymeradwyo, ac yntau felly yn gofyn am adolygu’r penderfyniad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014(1) neu o dan baragraff 12F(1)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989.
(2) Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(a), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro unwaith am gyfnod pellach o hyd at 8 wythnos.
(3) Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(b), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro hyd nes bo canlyniad yr adolygiad yn hysbys.
(4) Cyn penderfynu a ddylid estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol yn gyntaf—
(a)ystyried a yw lleoliad gyda’r person cysylltiedig yn dal i fod y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael,
(b)gofyn barn y panel maethu a sefydlwyd gan y darparwr gwasanaeth maethu yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, a
(c)hysbysu’r SAA.
(5) Rhaid i’r penderfyniad i estyn cymeradwyaeth dros dro gael ei wneud gan y swyddog enwebedig.
(6) Os yw’r cyfnod o gymeradwyaeth dros dro ac unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw’n dod i ben, a’r person cysylltiedig heb ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad ar ôl yn gyntaf wneud trefniadau eraill i letya C.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 27 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Mae adran 92 (rheoliadau ynghylch lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol a darpar fabwysiadwyr) ac adran 93 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol) o Ddeddf 2014 yn darparu enghreifftiau o’r modd y caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 87 o’r Ddeddf honno.