RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad
PENNOD 2Lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol
Cymeradwyaeth dros dro yn dod i ben27.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y gymeradwyaeth dros dro ar gyfer person cysylltiedig—
(a)
os yw’r gymeradwyaeth dros dro yn debygol o ddod i ben cyn bo’r broses asesu lawn wedi ei chwblhau, neu
(b)
(2)
Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(a), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro unwaith am gyfnod pellach o hyd at 8 wythnos.
(3)
Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(b), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro hyd nes bo canlyniad yr adolygiad yn hysbys.
(4)
Cyn penderfynu a ddylid estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol yn gyntaf—
(a)
ystyried a yw lleoliad gyda’r person cysylltiedig yn dal i fod y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael,
(b)
gofyn barn y panel maethu a sefydlwyd gan y darparwr gwasanaeth maethu yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, a
(c)
hysbysu’r SAA.
(5)
Rhaid i’r penderfyniad i estyn cymeradwyaeth dros dro gael ei wneud gan y swyddog enwebedig.
(6)
Os yw’r cyfnod o gymeradwyaeth dros dro ac unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw’n dod i ben, a’r person cysylltiedig heb ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad ar ôl yn gyntaf wneud trefniadau eraill i letya C.