RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad

PENNOD 2Lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol

Lleoli yn dilyn ystyriaeth yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 201425.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn penderfynu lleoli C gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”) yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 2014.

(2)

Rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C cyn bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig a’r awdurdod cyfrifol wedi paratoi cynllun lleoli ar gyfer C.

(3)

Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (2) rhaid i’r swyddog enwebedig—

(a)

bod yn fodlon mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer C, ac y byddai’r lleoliad gydag A er budd pennaf C,

(b)

bod yn fodlon y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b), ac

(c)

os gŵyr yr awdurdod cyfrifol lle mae rhiant neu warcheidwad C, hysbysu rhiant neu warcheidwad C ynghylch y lleoliad arfaethedig.