RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad

PENNOD 2Lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol

Lleoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol mewn argyfwng24.

(1)

Pan fo’n angenrheidiol lleoli C mewn argyfwng, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag unrhyw riant maeth awdurdod lleol sydd wedi ei gymeradwyo yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, hyd yn oed os nad yw telerau cymeradwyaeth y person hwnnw yn gyson â’r lleoliad, ar yr amod na wneir y lleoliad am gyfnod hwy na 6 diwrnod gwaith.

(2)

Pan ddaw’r cyfnod o 6 diwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i ben, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad oni fydd telerau cymeradwyaeth y person hwnnw wedi diwygio i fod yn gyson â’r lleoliad.