xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
23.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag F.
(2) Ni chaiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag F ac eithrio os yw—
(a)F wedi ei gymeradwyo gan—
(i)yr awdurdod cyfrifol, neu
(ii)ar yr amod y bodlonir hefyd yr amodau a bennir ym mharagraff (3), darparwr gwasanaeth maethu arall,
(b)telerau cymeradwyaeth F yn gyson â’r lleoliad arfaethedig, ac
(c)F wedi ymuno mewn cytundeb gofal maeth naill ai gyda’r awdurdod cyfrifol neu gyda darparwr gwasanaeth maethu arall yn unol â rheoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â rheoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethu Maethu (Lloegr) 2011.
(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii) yw’r canlynol—
(a)bod y darparwr gwasanaeth maethu y cymeradwywyd F ganddo yn cydsynio â’r lleoliad, a
(b)os oes gan unrhyw awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol arall yn Lloegr, blentyn wedi ei leoli ar y pryd gydag F, fod yr awdurdod hwnnw’n cydsynio â’r lleoliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 23 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)