RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad
PENNOD 2Lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol
Amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn lleoli plentyn gyda rhiant maeth awdurdod lleol23.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag F.
(2)
Ni chaiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag F ac eithrio os yw—
(a)
F wedi ei gymeradwyo gan—
(i)
yr awdurdod cyfrifol, neu
(ii)
ar yr amod y bodlonir hefyd yr amodau a bennir ym mharagraff (3), darparwr gwasanaeth maethu arall,
(b)
telerau cymeradwyaeth F yn gyson â’r lleoliad arfaethedig, ac
(c)
F wedi ymuno mewn cytundeb gofal maeth naill ai gyda’r awdurdod cyfrifol neu gyda darparwr gwasanaeth maethu arall yn unol â rheoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â rheoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethu Maethu (Lloegr) 2011.
(3)
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii) yw’r canlynol—
(a)
bod y darparwr gwasanaeth maethu y cymeradwywyd F ganddo yn cydsynio â’r lleoliad, a
(b)
os oes gan unrhyw awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol arall yn Lloegr, blentyn wedi ei leoli ar y pryd gydag F, fod yr awdurdod hwnnw’n cydsynio â’r lleoliad.