xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rhagolygol

RHAN 4LL+CDarpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad

PENNOD 1LL+CLleoli plentyn mewn gofal gyda P

Asesu addasrwydd P i ofalu am blentynLL+C

18.  Cyn penderfynu lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)asesu addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—

(i)y llety arfaethedig, a

(ii)yr holl bersonau eraill 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,

(b)cymryd i ystyriaeth yr holl faterion a bennir yn Atodlen 4(1) wrth wneud ei asesiad,

(c)ystyried a fydd y lleoliad, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth, a

(d)adolygu achos C yn unol â Rhan 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 18 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Mae Atodlen 4 yn cynnwys darpariaeth sy’n pennu’r materion y mae’n rhaid i awdurdod cyfrifol eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd P i ofalu am C.