RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad
PENNOD 1Lleoli plentyn mewn gofal gyda P
Asesu addasrwydd P i ofalu am blentyn18.
Cyn penderfynu lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)
asesu addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—
(i)
y llety arfaethedig, a
(ii)
yr holl bersonau eraill 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,
(b)
cymryd i ystyriaeth yr holl faterion a bennir yn Atodlen 447 wrth wneud ei asesiad,
(c)
ystyried a fydd y lleoliad, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth, a
(d)
adolygu achos C yn unol â Rhan 6.