RHAN 3Lleoliadau – darpariaethau cyffredinol

Lleoliadau y tu allan i’r ardal

Terfynu lleoliad gan yr awdurdod cyfrifol15.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), ni chaiff yr awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C ac eithrio ar ôl cynnal adolygiad o achos C yn unol â Rhan 6.

(2)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), cyn terfynu lleoliad C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)

gwneud trefniadau eraill ar gyfer lletya C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014,

(b)

hysbysu’r SAA,

(c)

i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i fwriad i derfynu’r lleoliad i’r canlynol—

(i)

pob un o’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r lleoliad iddynt o dan reoliad 14,

(ii)

y person y lleolwyd C gydag ef,

(iii)

os lleolwyd C yn ardal awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod hwnnw.

(3)

Pan fo perygl y gallai niwed ddigwydd ar unwaith i C, neu er mwyn diogelu eraill rhag anaf difrifol, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C, ac yn yr amgylchiadau hynny—

(a)

nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

(b)

rhaid i’r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â pharagraff (2)(a) a (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4)

Os nad yw’n rhesymol ymarferol hysbysu unrhyw berson yn unol â pharagraff (2)(c), yna rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad y terfynwyd y lleoliad, o’r ffaith bod y lleoliad wedi ei derfynu.

(5)

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo lleoliad C wedi ei derfynu—

(a)

o dan reoliad 20(c)(ii) (amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiad),

(b)

o dan reoliad 24(2) (terfynu lleoliad argyfwng),

(c)

o dan reoliad 27(6), neu

(d)

pan fo adran 82 o Ddeddf 2014 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety) yn gymwys.