RHAN 3Lleoliadau – darpariaethau cyffredinol

Lleoliadau y tu allan i’r ardal

Lleoli y tu allan i Gymru a Lloegr13.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)

C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, a

(b)

yr awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli C y tu allan i Gymru a Lloegr yn unol â darpariaethau adran 124 o Ddeddf 2014 (trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a Chymru).

(2)

Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd camau i sicrhau, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, y cydymffurfir â gofynion sy’n cyfateb i’r gofynion a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn pe bai C wedi ei leoli yng Nghymru.

(3)

Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth fanylion y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol i oruchwylio lleoliad C.