RHAN 3Lleoliadau – darpariaethau cyffredinol
Osgoi amharu ar addysg11.
(1)
(2)
Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—
(a)
y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),
(b)
y bydd y ddarpariaeth addysgol a wnaed ar gyfer C yn y lleoliad yn hyrwyddo cyflawniad addysgol C ac yn gyson â chynllun addysg personol C,
(c)
(d)
yr ymgynghorwyd â’r Cydgysylltydd Addysg PDG,
(e)
yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac
(f)
os lleolir C mewn cartref plant, yr ymgynghorwyd â gweithiwr dolen gyswllt C.
(3)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo—
(a)
yr awdurdod cyfrifol yn terfynu lleoliad C yn unol â rheoliad 15(3), neu
(b)
pan fo angen newid lleoliad C am unrhyw reswm arall mewn argyfwng,
ac mewn achos o’r fath rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau priodol i hyrwyddo cyflawniad addysgol C cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(4)
Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn paragraff (1), ond pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu gwneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y gwneir trefniadau eraill ar gyfer addysg neu hyfforddiant C sy’n bodloni anghenion C ac yn gyson â chynllun addysg personol C.
(5)
Yn y rheoliad hwn—