RHAN 3Lleoliadau – darpariaethau cyffredinol
Cynllun lleoli10.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), cyn gwneud trefniadau i leoli C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)
ymgorffori, o fewn cynllun gofal a chymorth C, fanylion o’r cynllun ar gyfer lleoli C (“y cynllun lleoli”) sydd—
(i)
yn nodi sut y bydd y lleoliad yn cyfrannu at ddiwallu anghenion C, a
(ii)
yn cynnwys yr holl faterion a bennir yn Atodlen 3 ac sy’n gymwys o ystyried y math o leoliad, a
(b)
sicrhau bod—
(i)
safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C wedi eu canfod ac wedi cael ystyriaeth briodol, a
(ii)
yr SAA wedi ei hysbysu.
(2)
Os nad yw’n rhesymol ymarferol i baratoi’r cynllun lleoli cyn gwneud y lleoliad, rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad.
(3)
Rhaid i’r cynllun lleoli gael ei gytuno gyda’r person priodol a’i lofnodi ganddo.
(4)
Os gwnaed y trefniadau ar gyfer lleoli C cyn 6 Ebrill 2016, rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi’r cynllun lleoli cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.