Rhagolygol
Rheoliad 41
ATODLEN 8LL+CYstyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C
1. Effaith unrhyw newid yn amgylchiadau C ers yr adolygiad blaenorol, yn enwedig unrhyw newid yng nghynllun gofal a chymorth C a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol, pa un a weithredwyd yn llwyddiannus y penderfyniadau a wnaed yn yr adolygiad blaenorol ai peidio, ac os na, y rhesymau am hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
2. A ddylai’r awdurdod cyfrifol geisio unrhyw newid yn statws cyfreithiol C.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
3. A oes cynllun ar gyfer sefydlogrwydd i C.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
4. Y trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes angen unrhyw newidiadau yn y trefniadau er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng C a P, neu rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
5. A yw lleoliad C yn parhau i fod y mwyaf addas sydd ar gael, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y cynllun lleoli neu mewn unrhyw agweddau eraill ar y trefniadau i ddarparu llety i C cyn yr adolygiad nesaf o achos C.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
6. A yw lleoliad C yn diogelu a hyrwyddo ei lesiant, ac a oes unrhyw bryderon wedi eu codi ynglŷn â diogelu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
7. Anghenion, cynnydd a datblygiad addysgol C, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, er mwyn diwallu anghenion penodol C a hyrwyddo cyflawniad addysgol C, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg a hyfforddiant C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried cyngor unrhyw berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, yn enwedig y person dynodedig mewn unrhyw ysgol lle mae C yn ddisgybl cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
8. Diddordebau hamdden C.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
9. Adroddiad yr asesiad diweddaraf o gyflwr iechyd C, a gafwyd yn unol â rheoliad 7, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer gofal iechyd C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried y cyngor a gafwyd gan unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd ers dyddiad yr adroddiad hwnnw, yn enwedig ymarferydd cyffredinol C.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
10. A ddiwellir anghenion C ai peidio mewn perthynas â’i hunaniaeth, ac a oes angen gwneud unrhyw newid penodol gan ystyried argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
11. A yw’r trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 34 yn parhau i fod yn briodol, ac a yw C yn eu deall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
12. A oes angen gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer yr amser pan na fydd C yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
13. Dymuniadau a theimladau C, a safbwyntiau’r SAA, ynghylch unrhyw agwedd ar yr achos, ac yn benodol unrhyw newidiadau y mae’r awdurdod cyfrifol wedi eu gwneud ers yr adolygiad diwethaf, neu’n bwriadu eu gwneud, yng nghynllun gofal a chymorth C.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
14. Pan fo rheoliad 31(3) yn gymwys, amlder ymweliadau R.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
15. Pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol, canfod a yw C ac F yn bwriadu gwneud trefniant byw ôl-18.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
16. Os yw paragraff 15 yn gymwys ac os yw C yn dymuno gwneud trefniant o’r fath ond nid yw F yn dymuno hynny, ystyried a ddylid lleoli C gyda rhiant maeth awdurdod lleol gwahanol, er mwyn hwyluso gwneud trefniant o’r fath pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
17. Pan fo C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), pa un a yw anghenion C o ganlyniad i’r statws hwnnw yn cael eu diwallu ai peidio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 8 para. 17 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)