xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rhagolygol

YR ATODLENNI

Rheoliad 29

ATODLEN 6LL+CCytundeb gydag asiantaeth faethu annibynnol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau’r awdurdod cyfrifol

1.  Rhaid i’r cytundeb gynnwys yr wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)y gwasanaethau sydd i’w darparu i’r awdurdod cyfrifol gan y person cofrestredig,

(b)y trefniadau ar gyfer dethol F gan yr awdurdod cyfrifol o blith y rhai a gymeradwyir gan y person cofrestredig,

(c)gofyniad bod y person cofrestredig yn cyflwyno adroddiadau i’r awdurdod cyfrifol ar unrhyw leoliadau fel y bo’n ofynnol gan yr awdurdod cyfrifol, a

(d)y trefniadau ar gyfer terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Pan fo’r cytundeb yn ymwneud â phlentyn penodol, rhaid iddo hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)manylion F,

(b)manylion am unrhyw wasanaethau y mae C i’w cael, a pha un ai’r awdurdod cyfrifol neu’r person cofrestredig sydd i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

(c)telerau’r cytundeb lleoli arfaethedig (gan gynnwys ynglŷn â thalu),

(d)y trefniadau ar gyfer cadw cofnodion ynglŷn ag C ac ar gyfer dychwelyd cofnodion ar ddiwedd y lleoliad,

(e)gofyniad bod y person cofrestredig yn hysbysu’r awdurdod cyfrifol ar unwaith os digwydd unrhyw bryderon ynghylch y lleoliad, ac

(f)pa un a ganiateir lleoli plant eraill gydag F, ac ar ba sail y caniateir hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)