Rhagolygol
Rheoliad 18
ATODLEN 4LL+CMaterion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd P i ofalu am C
1. Mewn cysylltiad â P—LL+C
(a)gallu P i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C, i—
(i)darparu ar gyfer anghenion corfforol C a gofal meddygol a deintyddol priodol,
(ii)amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,
(iii)sicrhau bod amgylchedd y cartref yn ddiogel ar gyfer C,
(iv)sicrhau y diwellir anghenion emosiynol C, a meithrinir ynddo hunan-ymdeimlad cadarnhaol, gan gynnwys unrhyw anghenion penodol sy’n tarddu o argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,
(v)hyrwyddo dysgu a datblygiad deallusol C drwy annog, symbylu yn wybyddol, a hyrwyddo llwyddiant addysgol a chyfleoedd cymdeithasol,
(vi)galluogi C i reoli ei emosiynau a’i ymddygiad, gan gynnwys drwy fodelu ymddygiad a dulliau priodol o ryngweithio ag eraill, a
(vii)darparu amgylchedd teuluol sefydlog er mwyn galluogi C i ddatblygu a chynnal ymlyniadau diogel gyda P a phersonau eraill sy’n darparu gofal i C;
(b)cyflwr iechyd P gan gynnwys—
(i)iechyd corfforol P,
(ii)iechyd emosiynol P,
(iii)iechyd meddwl P,
(iv)hanes meddygol P,
(v)unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig,
(vi)unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau,
a pherthnasedd neu amherthnasedd unrhyw ffactorau o’r fath o ran gallu P i ofalu am blant, a gofalu am C yn benodol;
(c)perthnasoedd teuluol P a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion am—
(i)enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â P ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,
(ii)unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C (pa un a yw’n byw ar yr un aelwyd â P ai peidio),
(iii)oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a
(iv)unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys P;
(d)hanes teuluol P, gan gynnwys—
(i)manylion am blentyndod a magwraeth P, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau rhieni P neu bersonau eraill a fu’n gofalu am P,
(ii)y berthynas rhwng P a’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthynas â’i gilydd,
(iii)cyflawniad addysgol P ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,
(iv)rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a
(v)manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a P;
(e)manylion am unrhyw droseddau y collfarnwyd P amdanynt neu y cafodd P rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;
(f)cyflogaeth flaenorol a phresennol P a’i ffynonellau eraill o incwm; ac
(g)natur y gymdogaeth y lleolir cartref P ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a P.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
2. Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (d), (f) ac (g).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)