xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rhagolygol

YR ATODLENNI

Rheoliad 10

ATODLEN 3LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghynllun lleoli CLL+C

1.—(1Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir llesiant C gan y person priodol.

(2Unrhyw drefniadau a wnaed ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill gan gynnwys, os yw’n briodol—

(a)y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

(b)os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

(c)os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989,

(d)y trefniadau a wnaed ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

(3Y trefniadau a wnaed ar gyfer gofal iechyd (gan gynnwys iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a deintyddol C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol ac ymarferydd deintyddol cofrestredig C, ac os yw’n gymwys, unrhyw ymarferydd cyffredinol neu ymarferydd deintyddol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef ar ôl ei leoli,

(b)unrhyw drefniadau ar gyfer rhoi neu atal cydsyniad ar gyfer archwiliad neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol i C.

(4Y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad unrhyw ysgol y mae C yn ddisgybl cofrestredig ynddi,

(b)enw’r person dynodedig ar gyfer disgyblion sy’n derbyn gofal yn yr ysgol honno (os yw’n gymwys); enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol arall a fynychir gan C, neu unrhyw berson arall sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,

(c)pan fo gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, manylion am yr awdurdod addysg lleol sy’n cynnal y datganiad.

(5Y trefniadau a wnaed i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder yr ymweliadau a’r trefniadau a wnaed i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.

(6Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i’r person hwnnw ymweld ag C.

(7Yr amgylchiadau pan ganiateir terfynu’r lleoliad a symud C ymaith o ofal y person priodol yn unol â rheoliad 15.

(8Enw a manylion cyswllt y canlynol—

(a)yr SAA;

(b)ymwelydd annibynnol C (os penodwyd un);

(c)R; a

(d)os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gyda PLL+C

2.—(1Cofnod o’r canlynol—

(a)yr asesiad o addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys ystyriaeth o’r materion a nodir yn Atodlen 4,

(b)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall y ceisir ei safbwyntiau gan yr awdurdod cyfrifol,

(c)penderfyniad yr awdurdod cyfrifol i leoli C gyda P.

(2Manylion am y cymorth a’r gwasanaethau sydd i’w darparu i P yn ystod y lleoliad.

(3Y rhwymedigaeth ar P i hysbysu’r awdurdod cyfrifol ynghylch unrhyw newid perthnasol yn yr amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw fwriad i newid cyfeiriad, unrhyw newid ar yr aelwyd lle y mae C yn byw, ac unrhyw ddigwyddiad difrifol sy’n ymwneud ag C.

(4Y rhwymedigaeth ar P i sicrhau bod unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag C neu mewn perthynas â theulu C neu unrhyw berson arall, a roddir yn gyfrinachol i P mewn cysylltiad â’r lleoliad, yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac na chaiff gwybodaeth o’r fath ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad yr awdurdod cyfrifol.

(5Yr amgylchiadau pan fydd angen cael caniatâd yr awdurdod cyfrifol ymlaen llaw er mwyn i C fyw ar aelwyd ac eithrio aelwyd P.

(6Y trefniadau ar gyfer gofyn am newid yn y cynllun lleoli.

(7Yr amgylchiadau pan gaiff y lleoliad ei derfynu yn unol â rheoliad 20(c)(ii).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gydag F, mewn cartref plant neu mewn trefniadau eraillLL+C

3.—(1Cofnod o benderfyniad yr awdurdod cyfrifol o dan reoliad 23(2).

(2Y math o lety sydd i’w ddarparu, y cyfeiriad, ac, os lleolir C mewn trefniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, enw’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol (os oes person o’r fath).

(3Pan fo—

(a)gan yr awdurdod cyfrifol bryderon amddiffyn plant sy’n ymwneud ag C, neu hysbysir yr awdurdod ynghylch pryderon o’r fath, neu

(b)C wedi mynd ar goll o’r lleoliad, neu o unrhyw leoliad blaenorol,

y trefniadau beunyddiol a sefydlwyd gan y person priodoli i gadw C yn ddiogel.

(4Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol a tharddiad hiliol C.

(5Pan fo C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol—

(a)cyfnod parhad disgwyliedig y trefniadau a’r camau y dylid eu cymryd i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i C ddychwelyd i fyw gyda rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

(b)pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, y ffaith honno.

(6Priod gyfrifoldebau’r awdurdod cyfrifol, rhieni C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C.

(7Unrhyw ddirprwyo o ran yr awdurdod i wneud penderfyniadau ynghylch gofal a magwraeth C gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6) (fel y bo’n briodol) i—

(a)yr awdurdod cyfrifol,

(b)F, ac

(c)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, y person priodol,

mewn perthynas â’r materion a nodir yn is-baragraff (8), ac yn nodi unrhyw faterion yr mae’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (6), yn ystyried y caiff C wneud penderfyniad yn eu cylch.

(8Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (7) yw—

(a)triniaeth feddygol a deintyddol,

(b)addysg,

(c)hamdden a bywyd cartref,

(d)ffydd a defodau crefyddol,

(e)defnyddio cyfryngau cymdeithasol,

(f)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6).

(9Trefniadau’r awdurdod cyfrifol ar gyfer cymorth ariannol i C yn ystod y lleoliad.

(10Pan leolir C gydag F, y rhwymedigaeth ar F i gydymffurfio â thelerau’r cytundeb gofal maeth a wnaed o dan reoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu reoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)