Rhagolygol
Rheoliad 5
ATODLEN 2LL+CCynlluniau gofal a chymorth
Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun iechydLL+C
1.—(1) Cyflwr iechyd C gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.
(2) Hanes iechyd C gan gynnwys, i’r graddau sy’n ymarferol, hanes iechyd teulu C.
(3) Effaith iechyd a hanes iechyd C ar ei ddatblygiad.
(4) Y trefniadau presennol ar gyfer gofal meddygol a deintyddol C, sy’n briodol i’w anghenion, gan gynnwys—
(a)gwiriadau rheolaidd o gyflwr iechyd cyffredinol C, gan gynnwys iechyd deintyddol;
(b)triniaeth a monitro ar gyfer anghenion iechyd a nodir (gan gynnwys iechyd corfforol ac emosiynol, ac yn enwedig iechyd meddwl) neu anghenion gofal deintyddol;
(c)mesurau ataliol megis brechiadau ac imiwneiddio;
(d)sgrinio am ddiffygion golwg neu glyw; ac
(e)cyngor a chanllawiau ar hybu iechyd a gofal personol effeithiol (gan gynnwys iechyd meddwl a gofal geneuol).
(5) Unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau presennol.
(6) Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C, mewn hyrwyddo iechyd C.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun addysg personolLL+C
2.—(1) Hanes addysgol a hanes hyfforddiant C, gan gynnwys gwybodaeth am sefydliadau addysgol a fynychwyd, a chofnod presenoldeb ac ymddygiad C, ei gyflawniadau academaidd a chyflawniadau eraill; ac anghenion addysgol arbennig C, os oes rhai.
(2) Y trefniadau presennol ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys manylion am unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig, ac unrhyw ddarpariaeth arall a wneir i ddiwallu anghenion penodol C o ran addysg neu hyfforddiant, a hyrwyddo ei gyflawniad addysgol.
(3) Diddordebau hamdden C.
(4) Pan fo angen gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, y ddarpariaeth a wnaed i leihau’r amharu ar yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw.
(5) Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C o ran hyrwyddo cyflawniadau addysgol C a’i ddiddordebau hamdden.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Perthnasoedd teuluol a chymdeithasolLL+C
3.—(1) Os oes gan C frawd neu chwaer y darperir llety ar ei gyfer neu ar ei chyfer gan yr awdurdod cyfrifol neu awdurdod arall, ac nad yw’r plant wedi eu lleoli gyda’i gilydd, y trefniadau a wnaed i hyrwyddo cyswllt rhyngddynt, i’r graddau y mae hynny’n gyson â llesiant C.
(2) Os yw C yn derbyn gofal gan, ond nid yng ngofal, yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989.
(3) Os yw C yn blentyn yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).
(4) Unrhyw drefniadau eraill a wnaed i hyrwyddo a chynnal cyswllt yn unol ag adran 95 o Ddeddf 2014, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol ac yn gyson â llesiant C, rhwng C ac—
(a)unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a
(b)unrhyw berson cysylltiedig arall.
(5) Pan fo adran 98(1) o Ddeddf 2014 (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal) yn gymwys, y trefniadau a wnaed i benodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C neu, os yw adran 98(6) o’r Ddeddf honno’n gymwys (ymwelydd annibynnol heb ei benodi pan fo’r plentyn yn gwrthwynebu), y ffaith honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)