Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Rhagolygol

Rheoliadau 5 a 58

ATODLEN 10LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli dan gadwad

1.  Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir ei lesiant gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol bod C yn preswylio ynddo neu ynddi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Unrhyw drefniadau ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C ac unrhyw berson cysylltiedig arall, gan gynnwys, os yw’n briodol—LL+C

(a)y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

(b)os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

(c)y trefniadau ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  Y trefniadau a wnaed er mwyn i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder y cyfryw ymweliadau a’r trefniadau a wnaed ar gyfer rhoi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

4.  Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i ymwelydd annibynnol ymweld ag C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

5.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer gofal iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ofal deintyddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—LL+C

(a)enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol neu sefydliad hyfforddi a fynychwyd gan C, neu unrhyw berson arall a oedd yn darparu addysg neu hyfforddiant i C yn union cyn rhoi C ar remánd neu dan gadwad,

(b)pan fo gan C ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, manylion yr awdurdod lleol (neu awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n cynnal y datganiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

7.  Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol, a tharddiad hiliol C, a’r trefniant a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer diwallu anghenion C ynglŷn â’i hunaniaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 10 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

8.  Y trefniadau a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer cynorthwyo C i ddatblygu sgiliau hunanofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.  Enw a manylion cyswllt—LL+C

(a)yr SAA,

(b)yr ymwelydd annibynnol ar gyfer C (os penodwyd un),

(c)R,

(d)os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 10 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

10.  Manylion am y modd y dylai llesiant C gael ei ddiogelu’n ddigonol a’i hyrwyddo pan fo C yn peidio â bod ar remand i LlCI neu dan gadwad, ac yn benodol—LL+C

(a)pa un a ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, a

(b)pa un a ddylai gwasanaethau eraill gael eu darparu gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall o dan Ddeddf 2014, neu gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer ei ddyletswyddau o dan Ddeddf 1989.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 10 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)