Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio gofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (h.y. plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (“ALl”), pa un a ydynt yng ngofal yr ALl yn rhinwedd gorchymyn gofal ai peidio), a materion cysylltiedig.
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan ddarpariaethau yn Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), sy’n disodli, o ran Cymru, y ddarpariaeth a wnaed yn flaenorol gan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 2 iddi (fel y’i diwygiwyd yn benodol gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008) (“Deddf 1989”), ac o dan ddarpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf 1989.
Yn rhannol hefyd, maent yn Rheoliadau sy’n cydgrynhoi, ac yn dirymu a disodli darpariaethau mewn Rheoliadau blaenorol (nodir eu manylion yn Atodlen 11) a oedd yn ymdrin â chynllunio gofal, penderfyniadau lleoli ac adolygu achos plentyn sy’n derbyn gofal.
Mae Rhan 2 yn ymdrin â threfniadau’r ALl ar gyfer gofalu am y plentyn. Mae’n pennu erbyn pa bryd y mae’n rhaid paratoi cynllun yr ALl ar gyfer gofal a chymorth i’r plentyn (y cynllun gofal a chymorth) (rheoliad 4), yn pennu cynnwys y cynllun (rheoliad 5) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygio’r cynllun a darparu copïau ohono gan yr ALl (rheoliad 6). Mae’n darparu ar gyfer cynnal asesiad o iechyd y plentyn gan ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig, ac ar gyfer darparu gofal iechyd (rheoliad 7). Mae’n nodi’r camau sydd i’w cymryd pan fo ALl yn gwneud penderfyniad o dan adran 34(6) o Ddeddf 1989 i wrthod caniatáu cyswllt â phlentyn (rheoliadau 8 a 9).
Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynglŷn â lleoliadau. Mae’n cynnwys darpariaethau ynglŷn â’r cynllun lleoli sydd i’w baratoi gan yr ALl (rheoliad 10), camau sydd i’w cymryd i osgoi amharu ar addysg y plentyn o ganlyniad i newid lleoliad (rheoliad 11), darpariaethau arbennig ynghylch lleoli y tu allan i Gymru a thu allan i Gymru a Lloegr (rheoliadau 12 a 13), y personau y mae’n rhaid eu hysbysu ynghylch lleoliad (rheoliad 14) a’r amgylchiadau pan ganiateir terfynu lleoliad (rheoliad 15).
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch mathau penodol o leoliadau, sef gyda’r rhieni (rheoliadau 16 i 21), a chyda rhieni maeth awdurdod lleol (rheoliadau 22 i 26). Mae’n gwneud darpariaeth hefyd ynghylch lleoli plant gyda darpar fabwysiadwyr penodol yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 2014, ac ynghylch cymeradwyo personau o’r fath dros dro fel rhieni maeth awdurdod lleol mewn cysylltiad â phlentyn penodol. Mae’n cynnwys darpariaeth hefyd ynglŷn â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014 (rheoliad 30).
Mae Rhan 5 yn pennu’r trefniadau sydd i’w gwneud er mwyn i gynrychiolydd yr ALl ymweld â phlentyn, amlder, amgylchiadau a chanlyniadau ymweliadau o’r fath (rheoliadau 31 i 33 a 35), a’r cyngor a’r cymorth arall y mae’n rhaid eu rhoi ar gael i’r plentyn rhwng ymweliadau o’r fath (rheoliad 34). Mae Rhan 5 hefyd yn cynnwys manylion yr ystyriaethau y mae’n rhaid i ALl roi sylw iddynt wrth benderfynu a ddylid penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal.
Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau ynghylch adolygiadau gan yr ALl o achos y plentyn – y cyfrifoldeb cyffredinol am drefnu adolygiadau (rheoliad 38), amseru a chynnal yr adolygiadau, gan gynnwys rôl y swyddog adolygu annibynnol (rheoliadau 39 i 42) a threfniadau ar gyfer cyflawni penderfyniadau a chadw cofnodion o’r adolygiadau (rheoliadau 43 a 44).
Mae Rhan 7 yn nodi trefniadau sydd i’w gwneud gan yr ALl ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn. Ailddeddfiad yw’r Rhan hon o ddarpariaethau a gynhwysid gynt yn Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001, a oedd yn rhagnodi (yn unol â pharagraff 19B o Atodlen 2 i Ddeddf 1989) y meini prawf gofynnol ar gyfer dynodi plentyn yn “eligible child” at ddibenion Deddf 1989. Nid yw Deddf 2014 yn ailddefnyddio’r derminoleg a gynhwysid yn Neddf 1989, ac mae rheoliad 47 o’r Rheoliadau hyn yn pennu’r cyfnod perthnasol a’r oedran yn unol ag adran 104(2) o Ddeddf 2014 er mwyn penderfynu a yw plentyn sy’n derbyn gofal gan ALl yn berson ifanc categori 1 at ddibenion Deddf 2014 ai peidio. Mae’n cynnwys rhwymedigaethau newydd ar ALl i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â gwneud trefniant byw ôl-18, a’r cymorth sydd ar gael i bersonau sy’n dymuno gwneud trefniant o’r fath (yn unol ag adran 108 o Ddeddf 2014).
Mae Rhan 8 yn ymdrin â swyddogaethau ychwanegol, cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnol (rheoliadau 53 a 54) a’r diffiniad o ymwelydd annibynnol a benodir o dan adran 98 o Ddeddf 2014 (rheoliad 55).
Mae Rhan 9 yn ymdrin â chymhwyso’r Rheoliadau yn ddarostyngedig i addasiadau penodedig, i blant sydd ar remánd i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid, ac i blant sydd yng ngofal awdurdod lleol a dan gadwad mewn carchar neu lety cadw ieuenctid ar ôl eu collfarnu am drosedd, neu y gwneir yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd neu fangre benodedig arall.
Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau amrywiol gan gynnwys cymhwyso’r Rheoliadau (yn ddarostyngedig i addasiadau) i leoliadau seibiant byr. Mae Rhan 10 hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch cyfrifoldebau ALl mewn perthynas â chadw cofnodion.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.