2015 Rhif 1815 (Cy. 260)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
4
Yn y Rheoliadau hyn—
defnyddir “A” (“A”) i gyfeirio at berson y mae neu y bydd ei anghenion gofal a chymorth neu ei anghenion cymorth yn cael eu diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
defnyddir “P” (“P”) i gyfeirio at berson sydd, neu y cynigir iddo fod, yn dderbynnydd taliadau uniongyrchol ac sy’n “person addas”3 at ddibenion adran 50(4) o’r Ddeddf neu’n berson sydd â chyfrifoldeb rhiant4 dros A y caniateir i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud iddo er lles A o dan adran 51 o’r Ddeddf;
ystyr “perthynas” (“relative”) yw—
- a
priod neu bartner sifil;
- b
person sy’n byw gyda pherson fel petai’n briod neu’n bartner sifil;
- c
rhiant, rhiant-yng-nghyfraith neu lys-riant;
- d
mab neu ferch;
- e
mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith;
- f
llys-fab neu lys-ferch;
- g
brawd neu chwaer;
- h
modryb neu ewythr;
- i
tad-cu/taid neu fam-gu/nain; neu
- j
priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraffau (c) i (i);
- a
mae “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) wedi ei ddiffinio yn adrannau 50(7), 51(7) a 52(7) o’r Ddeddf.
5
Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at anghenion person “am ofal a chymorth” i’w darllen fel ei “anghenion am gymorth” pan fo’r person yn ofalwr.
Dyletswydd i wneud taliadau uniongyrchol2
Pan fo—
a
awdurdod lleol—
i
o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan adran 35, 37, 39, 40 neu 42 o’r Ddeddf; neu
ii
wedi penderfynu diwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan adran 36 neu 38 o’r Ddeddf neu gymorth mewn perthynas â gofalwr o dan adran 45 o’r Ddeddf;
a
b
yr amodau yn adran 50, 51 neu 52 o’r Ddeddf (yn ôl y digwydd) wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion y person hwnnw am ofal a chymorth onid yw’r person yn berson y mae rheoliad 14 yn gymwys iddo.
rhaid i awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion y person hwnnw am ofal a chymorth onid yw’r person yn berson y mae rheoliad 14 yn gymwys iddo.
Effaith gwneud taliadau3
Pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i berson, mae gwneud y taliadau yn disodli dyletswydd neu bŵer yr awdurdod lleol i ddarparu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, er mwyn diwallu’r anghenion, neu’r agwedd honno ar yr anghenion, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy neu hi a hynny am hyd y cyfnod y gwneir y taliadau ar ei gyfer.
Camau i alluogi gwneud dewisiadau deallus ynghylch taliadau uniongyrchol4
1
Pan fo awdurdod lleol—
a
yn penderfynu y bydd yn diwallu anghenion A am ofal a chymorth, a
b
yn dyfarnu bod gwneud taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A,
rhaid iddo ddarparu gwybodaeth i A i sicrhau bod A yn gallu gwneud dewis deallus ynghylch pa un a yw’n cydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud ai peidio.
2
Rhaid i’r wybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn ei darparu gynnwys—
a
sut y mae’n bwriadu diwallu’r anghenion hynny os na chaiff yr anghenion eu diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol;
b
cadarnhad ynghylch a yw taliadau uniongyrchol, ym marn yr awdurdod lleol, yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A5;
c
gwybodaeth am natur a diben taliadau uniongyrchol;
d
gwybodaeth am ffyrdd gwahanol o reoli taliadau uniongyrchol;
e
swm unrhyw daliadau y byddai gan y person hawlogaeth iddynt os oedd dewis wedi ei wneud i gael taliad uniongyrchol a sut y câi swm y taliad ei gyfrifo;
f
gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gynorthwyo pobl i reoli taliadau uniongyrchol pa un ai oddi wrth yr awdurdod lleol neu oddi wrth unrhyw berson arall;
g
gwybodaeth am effaith asesiad ariannol ac, yn achos yr anghenion o dan sylw, a fyddai unrhyw daliadau uniongyrchol yn debyg o gael eu gwneud fel taliadau gros neu daliadau net.
3
Pan fo A yn oedolyn nad oes ganddo alluedd, rhaid i’r awdurdod lleol, yn lle hynny, ddarparu’r wybodaeth i unrhyw berson a awdurdodir o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 20056 i wneud penderfyniadau ynghylch A.
4
Pan fo A yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd, neu’n blentyn o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus, rhaid i’r awdurdod lleol, yn lle hynny, ddarparu’r wybodaeth i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A.
Dyletswydd i ymgynghori a chymryd camau eraill ar gyfer personau sydd heb alluedd5
Cyn ystyried a yw taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A pan fo A yn oedolyn sydd heb alluedd, rhaid i awdurdod lleol—
a
ymgynghori â’r canlynol—
i
unrhyw un sydd wedi ei enwi gan A fel rhywun y dylid ymgynghori ag ef ar y mater;
ii
unrhyw un sy’n ymgymryd â gofalu dros A neu y mae ganddo ddiddordeb sylweddol yn lles A;
iii
P; a
iv
person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (pa un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth;
b
pan fo A yn oedolyn yr oedd ganddo alluedd o’r blaen, ystyried, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol—
i
barn, dymuniadau a theimladau A yn y gorffennol a’r presennol ac, yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wnaed gan A tra’r oedd ganddo alluedd o hyd;
ii
y credoau a’r gwerthoedd a fyddai’n debyg o ddylanwadu ar benderfyniad A; a
iii
unrhyw ffactorau perthnasol eraill y byddai A, ym marn yr awdurdod lleol, yn debyg o’u hystyried, os byddai’n gallu gwneud hynny; ac
c
cael tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 19977 mewn cysylltiad â P pan fo P yn unigolyn ond nad yw’n berthynas i A nac yn gyfaill i A sy’n ymwneud â gofal A.
Amodau ynghylch defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu perthnasau6
1
Caiff awdurdod lleol awdurdodi defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu perthynas i A sy’n byw ar yr un aelwyd os yw o’r farn ei bod yn angenrheidiol i hyrwyddo llesiant A.
2
Caniateir i daliadau gael eu hawdurdodi i dalu’r perthynas naill ai—
a
am ddarparu gofal a chymorth i A; neu
b
am gynorthwyo A i reoli’r taliadau.
3
Wrth ystyried a yw’n angenrheidiol i hyrwyddo llesiant A yn unol â pharagraff (1), rhaid i awdurdod lleol ystyried barn A a barn y personau eraill a grybwyllir yn rheoliad 11(3).
4
Pan na fo awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol hyrwyddo llesiant A, rhaid iddo osod amod nad yw taliadau uniongyrchol i’w defnyddio i dalu perthynas i A sy’n byw ar yr un aelwyd.
Amodau sy’n gofyn am fetio7
1
Pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 50 o’r Ddeddf i P am nad oes gan A alluedd, rhaid iddo osod amodau fel y’u nodir yn y rheoliad hwn.
2
Yr amodau yw bod P—
a
yn gweithredu er lles pennaf A wrth sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu; a
b
yn hysbysu’r awdurdod lleol os yw P yn credu nad yw A bellach heb alluedd.
3
Pan fo’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol osod hefyd amod bod P yn cael—
a
tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 gan gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” gan adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu blant (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” gan adran 113BA o’r Ddeddf honno); neu
b
gwiriad bod tystysgrif foddhaol o’r math hwnnw wedi ei chael,
mewn cysylltiad ag unrhyw berson y sicrheir gwasanaeth oddi wrtho a hwnnw’n wasanaeth y gwneir taliadau uniongyrchol amdano.
4
Yr amgylchiadau pan fo rhaid i awdurdod lleol osod yr amod ym mharagraff (3) yw nad yw P—
a
yn berthynas i A; na
b
yn gyfaill i A sy’n ymwneud â darparu gofal ar gyfer A.
Amodau pellach y caiff awdurdod lleol eu cymhwyso i wneud taliadau uniongyrchol8
1
Caiff awdurdod lleol wneud taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau pellach.
2
Caiff amodau a osodir o dan baragraff (1), er enghraifft, gynnwys gofyniad—
a
na chaniateir i’r anghenion y mae taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad â hwy gael eu diwallu gan berson penodol;
b
bod rhaid i dderbynnydd y taliadau ddarparu gwybodaeth y mae ar yr awdurdod lleol angen rhesymol ei chael at ddibenion sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A.
3
Ni chaiff amod a osodir o dan baragraff (2)(a) ei gwneud yn ofynnol mai dim ond gan berson penodol y caniateir i anghenion A gael eu diwallu.
Taliadau net neu daliadau gros9
1
Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gwneud taliadau uniongyrchol, pa un ai o dan reoliad 2 neu reoliad 14 o’r Rheoliadau hyn8, rhaid iddo benderfynu pa un ai i’w gwneud fel taliadau net neu daliadau gros.
2
Wrth benderfynu pa un ai i wneud taliadau net neu daliadau gros rhaid i awdurdod lleol ystyried yr effaith ar A gan roi sylw i amgylchiadau ariannol A.
Ad-dalu taliadau uniongyrchol10
Caiff awdurdod lleol derfynu ei drefniadau ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i’r cyfan neu ran o’r taliadau uniongyrchol y mae wedi eu gwneud gael ei ad-dalu neu ei had-dalu os yw wedi ei fodloni naill ai—
a
nad yw’r taliadau wedi eu defnyddio i ddiwallu’r angen y maent yn ymwneud ag ef; neu
b
nad ydys wedi cydymffurfio ag amod a osodwyd o dan reoliad 6, 7, 8 neu 14.
Adolygiadau11
1
Rhaid i awdurdod lleol adolygu’r trefniadau ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol a’r defnydd sy’n cael ei wneud ohonynt—
a
fesul ysbaid y mae’r awdurdod lleol yn dyfarnu ei bod yn briodol ar ddechrau gwneud taliadau uniongyrchol i A, gan roi sylw i amgylchiadau achos A;
b
pan fydd A neu P yn galw am adolygiad;
c
pan fydd yr awdurdod lleol yn galw am adolygiad oherwydd—
i
ei fod yn pryderu nad yw’r defnydd sy’n cael ei wneud o’r taliadau uniongyrchol yn diwallu anghenion A;
ii
ei fod yn pryderu nad ydys yn cydymffurfio ag amod sydd wedi ei osod ar wneud y taliadau; neu
iii
bod newid sylweddol yn amgylchiadau A neu P; a
d
sut bynnag, fesul ysbaid nad yw’n hwy na—
i
6 mis ar ôl gwneud y taliad cyntaf; a
ii
12 mis yn dilyn yr adolygiad cyntaf.
2
Pan fo A, P neu’r awdurdod lleol yn galw am adolygiad o dan baragraff (1)(b) neu (c), estynnir yn unol â hynny y cyfnod cyn bod yr adolygiad nesaf i fod i ddigwydd.
3
Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys—
a
A;
b
P (pan fo taliadau i’w gwneud i P);
c
unrhyw ofalwr dros A;
d
i
unrhyw berson y mae A yn gofyn i’r awdurdod lleol ei gynnwys;
ii
os yw A yn oedolyn nad oes ganddo alluedd i benderfynu pwy i’w gynnwys, unrhyw berson a awdurdodir o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005 i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth;
iii
os yw A yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd i benderfynu pwy i’w gynnwys—
aa
unrhyw berson a awdurdodir i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005; neu
bb
person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A;
iv
os yw A yn blentyn o dan 16 oed, rhiant A neu berson arall mewn rôl rhiant; ac
e
unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod ganddo ymglymiad digonol yn y trefniadau gofal neu gymorth ar gyfer A.
4
Nid yw’r gofyniad i gynnwys rhiant neu berson arall mewn rôl rhiant mewn adolygiad o dan baragraff (3)(d)(iv) yn gymwys pan fyddai cynnwys y person hwnnw, ym marn yr awdurdod lleol, yn anghyson â llesiant y plentyn.
5
Yn y rheoliad hwn mae “person mewn rôl rhiant” (“person in a parental role”) yn cynnwys rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant neu berson arall sy’n gofalu am y plentyn.
Taliadau uniongyrchol ar gyfer plentyn12
1
Pan fo A yn blentyn a bod awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 51 o’r Ddeddf tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol, os yw’r amod ym mharagraff (2) wedi ei fodloni, fodloni gan hynny ofynion paragraff (3).
2
Yr amod yn y paragraff hwn yw bod naill ai A neu P yn cael—
a
cymhorthdal incwm o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 19929;
b
unrhyw elfen o gredyd treth plant ac eithrio’r elfen deuluol;
c
credyd treth gwaith;
d
lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;
e
lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm; neu
f
credyd cynhwysol.
3
Y gofynion yn y paragraff hwn yw—
a
bod rhaid i’r awdurdod lleol wneud y taliadau ar y raddfa y mae’n amcangyfrif ei bod yn gost resymol darpariaeth i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth y gwneir y taliadau mewn cysylltiad â hwy; a
b
na chaniateir i’r awdurdod lleol wneud y taliadau yn ddarostyngedig i unrhyw amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn A, neu dderbynnydd y taliad P, dalu unrhyw swm i’r awdurdod ar ffurf ad-daliad.
4
Yn y rheoliad hwn—
a
dehonglir “credyd treth plant” (“child tax credit”) yn unol ag adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 200210 ac mae i “elfen deuluol” yr un ystyr a roddir i “family element” yn adran 9(3) o’r Ddeddf honno;
b
dehonglir “credyd treth gwaith” (“working tax credit”) yn unol ag adrannau 10 i 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
c
mae i “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” yr ystyr a roddir i “income-based jobseeker’s allowance” yn adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 199511;
d
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 200712 (lwfans cyflogaeth a chymorth);
e
dehonglir “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 201213.
Taliadau uniongyrchol ar gyfer oedolyn nad oes ganddo alluedd mwyach13
1
Nid oes rhaid i awdurdod lleol derfynu’r arfer o wneud taliadau uniongyrchol o dan adran 50 o’r Ddeddf mewn perthynas ag A pan fo A yn oedolyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddo a bod un o’r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn gymwys.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo A yn oedolyn y bodlonwyd amod 1 yn is-adran (3)(b) o adran 50 o’r Ddeddf mewn perthynas ag ef oherwydd yr oedd ganddo alluedd i gydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud ar yr adeg y dechreuodd y trefniant, ond ei fod wedi colli’r galluedd wedi hynny.
3
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo naill ai—
a
yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod colled A o’r galluedd i gydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud yn golled dros dro a bod naill ai—
i
cyfnod neu gyfnodau colli’r galluedd yn annhebyg o effeithio ar allu A i reoli’r taliadau; neu
ii
person arall y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn gallu rheoli’r taliadau yn fodlon derbyn a rheoli’r taliadau ar ran A yn ystod cyfnodau diffyg galluedd A; neu
b
amod 2 yn is-adran (4) o adran 50 o’r Ddeddf wedi ei fodloni.
Personau sy’n ddarostyngedig i ofynion a osodwyd mewn perthynas â defnyddio cyffuriau neu alcohol14
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i bersonau a restrir yn yr Atodlen.
2
Caiff awdurdod lleol wneud taliad uniongyrchol i berson y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ond dim ond os yw’n gosod amodau yn y termau a nodir ym mharagraff (3) a bod yr amod pellach ym mharagraff (4) yn cael ei fodloni.
3
Yr amodau y mae’n rhaid eu gosod yw—
a
bod A yn cytuno ac yn parhau i gytuno bod taliadau yn cael eu gwneud i berson (“B”) er mwyn iddo eu rheoli ar ran A; a
b
bod B yn cytuno ac yn parhau i gytuno i gael y taliadau ac i reoli’r taliadau er mwyn diwallu anghenion A am ofal a chymorth.
4
Yr amod pellach yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod B yn berson priodol i gael a rheoli taliadau ar ran A.
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 198315
1
Pan fo awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer person o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 198314 a bod yr amodau yn adrannau 50, 51 a 52 o’r Ddeddf (fel y’u haddaswyd gan Atodlen A1) wedi eu bodloni, yna rhaid iddo wneud taliadau uniongyrchol i gyflawni ei ddyletswydd.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i daliadau uniongyrchol a wneir wrth gyflawni dyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gyda’r addasiadau canlynol.
3
Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “ôl-ofal” (“after-care”) neu “gwasanaethau ôl-ofal” (“after-care services”) i’w dehongli yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
4
Yn rheoliad 3 dileer y geiriau “diwallu’r anghenion, neu’r agwedd honno ar yr anghenion, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy neu hi” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu’r agwedd honno ar y ddyletswydd, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hi”.
5
a
Yn rheoliad 4(1)(a) dileer y geiriau “diwallu anghenion A am ofal a chymorth,” a rhodder yn eu lle “darparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”;
b
yn rheoliad 4(1)(b) dileer y geiriau “ddiwallu anghenion A” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”;
c
yn rheoliad 4(2)(a) dileer y geiriau “diwallu’r anghenion hynny” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd”; a
d
hepgorer rheoliad 4(2)(g).
6
Yn rheoliad 5 dileer y geiriau “ddiwallu anghenion” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd tuag at”.
7
Yn rheoliad 6(2)(a) dileer y geiriau “gofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “ôl-ofal”.
8
Yn rheoliad 7(2)(a) dileer y geiriau “gofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “gwasanaethau ôl-ofal”.
9
a
Yn rheoliad 8(2)(a) dileer y geiriau “anghenion y mae taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad â hwy gael eu diwallu” a rhodder yn eu lle “gwasanaethau ôl-ofal y gwneir taliadau mewn cysylltiad â hwy gael eu darparu”;
b
yn rheoliad 8(2)(b) dileer y geiriau “ddiwallu anghenion A” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd tuag at A”; ac
c
yn rheoliad 8(3) dileer y geiriau “caniateir i anghenion A gael eu diwallu” a rhodder yn eu lle “caniateir i wasanaethau ôl-ofal gael eu darparu”.
10
Hepgorer rheoliad 9.
11
Yn rheoliad 10(a) dileer y geiriau “ddiwallu’r angen” a rhodder yn eu lle “ddarparu’r gwasanaeth ôl-ofal”.
12
a
Yn rheoliad 11(1)(c)(i) dileer y geiriau “diwallu anghenion” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd tuag at”;
b
yn rheoliad 11(3)(d)(ii) dileer y geiriau “ofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “ôl-ofal”.
13
Hepgorer rheoliad 12.
14
Yn rheoliad 14(3)(b) dileer y geiriau “diwallu anghenion A am ofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “darparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer A”.
YR ATODLENOedolion y caiff yr awdurdod lleol ddiwallu eu hanghenion drwy wneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau penodol
Mae’r Atodlen hon yn gymwys i berson os yw—
a
yn destun gofyniad adsefydlu cyffuriau, fel y diffinnir “drug rehabilitation requirement” gan adran 209 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 200315, a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o’r Ddeddf honno, neu gan ddedfryd ohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” gan adran 189 o’r Ddeddf honno;
b
yn destun gofyniad triniaeth alcohol fel y diffinnir “alcohol treatment requirement” gan adran 212 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o’r Ddeddf honno neu gan ddedfryd ohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” gan adran 189 o’r Ddeddf honno;
c
wedi ei ryddhau ar drwydded o dan Ran 2 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 199116, Pennod 6 o Ran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 neu Bennod 2 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 199717, yn ddarostyngedig i amod trwydded ansafonol sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y troseddwr yn ymgymryd â gwaith ymddygiad troseddol i fynd i’r afael ag ymddygiad sy’n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol;
d
o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gorchymyn adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community rehabilitation order” gan adran 41 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 200018 neu orchymyn cosbi ac adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community punishment and rehabilitation order” gan adran 51 o’r Ddeddf honno;
e
yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau a osodwyd o dan adran 52 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000;
f
o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad mewn gorchymyn prawf o fewn yr ystyr a roddir i “probation order” gan adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199519 neu yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau o fewn yr ystyr a roddir i “drug treatment and testing order” gan adran 234B o’r Ddeddf honno; neu
g
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)