- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
21 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Tachwedd 2015
Yn dod i rym
6 Ebrill 2016
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
defnyddir “A” (“A”) i gyfeirio at berson y mae neu y bydd ei anghenion gofal a chymorth neu ei anghenion cymorth yn cael eu diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
defnyddir “P” (“P”) i gyfeirio at berson sydd, neu y cynigir iddo fod, yn dderbynnydd taliadau uniongyrchol ac sy’n “person addas”(3) at ddibenion adran 50(4) o’r Ddeddf neu’n berson sydd â chyfrifoldeb rhiant(4) dros A y caniateir i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud iddo er lles A o dan adran 51 o’r Ddeddf;
ystyr “perthynas” (“relative”) yw—
priod neu bartner sifil;
person sy’n byw gyda pherson fel petai’n briod neu’n bartner sifil;
rhiant, rhiant-yng-nghyfraith neu lys-riant;
mab neu ferch;
mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith;
llys-fab neu lys-ferch;
brawd neu chwaer;
modryb neu ewythr;
tad-cu/taid neu fam-gu/nain; neu
priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraffau (c) i (i);
mae “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) wedi ei ddiffinio yn adrannau 50(7), 51(7) a 52(7) o’r Ddeddf.
(5) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at anghenion person “am ofal a chymorth” i’w darllen fel ei “anghenion am gymorth” pan fo’r person yn ofalwr.
2. Pan fo—
(a)awdurdod lleol—
(i)o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan adran 35, 37, 39, 40 neu 42 o’r Ddeddf; neu
(ii)wedi penderfynu diwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan adran 36 neu 38 o’r Ddeddf neu gymorth mewn perthynas â gofalwr o dan adran 45 o’r Ddeddf;
a
(b)yr amodau yn adran 50, 51 neu 52 o’r Ddeddf (yn ôl y digwydd) wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion y person hwnnw am ofal a chymorth onid yw’r person yn berson y mae rheoliad 14 yn gymwys iddo.
rhaid i awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion y person hwnnw am ofal a chymorth onid yw’r person yn berson y mae rheoliad 14 yn gymwys iddo.
3. Pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i berson, mae gwneud y taliadau yn disodli dyletswydd neu bŵer yr awdurdod lleol i ddarparu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, er mwyn diwallu’r anghenion, neu’r agwedd honno ar yr anghenion, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy neu hi a hynny am hyd y cyfnod y gwneir y taliadau ar ei gyfer.
4.—(1) Pan fo awdurdod lleol—
(a)yn penderfynu y bydd yn diwallu anghenion A am ofal a chymorth, a
(b)yn dyfarnu bod gwneud taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A,
rhaid iddo ddarparu gwybodaeth i A i sicrhau bod A yn gallu gwneud dewis deallus ynghylch pa un a yw’n cydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud ai peidio.
(2) Rhaid i’r wybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn ei darparu gynnwys—
(a)sut y mae’n bwriadu diwallu’r anghenion hynny os na chaiff yr anghenion eu diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol;
(b)cadarnhad ynghylch a yw taliadau uniongyrchol, ym marn yr awdurdod lleol, yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A(5);
(c)gwybodaeth am natur a diben taliadau uniongyrchol;
(d)gwybodaeth am ffyrdd gwahanol o reoli taliadau uniongyrchol;
(e)swm unrhyw daliadau y byddai gan y person hawlogaeth iddynt os oedd dewis wedi ei wneud i gael taliad uniongyrchol a sut y câi swm y taliad ei gyfrifo;
(f)gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gynorthwyo pobl i reoli taliadau uniongyrchol pa un ai oddi wrth yr awdurdod lleol neu oddi wrth unrhyw berson arall;
(g)gwybodaeth am effaith asesiad ariannol ac, yn achos yr anghenion o dan sylw, a fyddai unrhyw daliadau uniongyrchol yn debyg o gael eu gwneud fel taliadau gros neu daliadau net.
(3) Pan fo A yn oedolyn nad oes ganddo alluedd, rhaid i’r awdurdod lleol, yn lle hynny, ddarparu’r wybodaeth i unrhyw berson a awdurdodir o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005(6) i wneud penderfyniadau ynghylch A.
(4) Pan fo A yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd, neu’n blentyn o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus, rhaid i’r awdurdod lleol, yn lle hynny, ddarparu’r wybodaeth i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A.
5. Cyn ystyried a yw taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A pan fo A yn oedolyn sydd heb alluedd, rhaid i awdurdod lleol—
(a)ymgynghori â’r canlynol—
(i)unrhyw un sydd wedi ei enwi gan A fel rhywun y dylid ymgynghori ag ef ar y mater;
(ii)unrhyw un sy’n ymgymryd â gofalu dros A neu y mae ganddo ddiddordeb sylweddol yn lles A;
(iii)P; a
(iv)person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (pa un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth;
(b)pan fo A yn oedolyn yr oedd ganddo alluedd o’r blaen, ystyried, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol—
(i)barn, dymuniadau a theimladau A yn y gorffennol a’r presennol ac, yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wnaed gan A tra’r oedd ganddo alluedd o hyd;
(ii)y credoau a’r gwerthoedd a fyddai’n debyg o ddylanwadu ar benderfyniad A; a
(iii)unrhyw ffactorau perthnasol eraill y byddai A, ym marn yr awdurdod lleol, yn debyg o’u hystyried, os byddai’n gallu gwneud hynny; ac
(c)cael tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(7) mewn cysylltiad â P pan fo P yn unigolyn ond nad yw’n berthynas i A nac yn gyfaill i A sy’n ymwneud â gofal A.
6.—(1) Caiff awdurdod lleol awdurdodi defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu perthynas i A sy’n byw ar yr un aelwyd os yw o’r farn ei bod yn angenrheidiol i hyrwyddo llesiant A.
(2) Caniateir i daliadau gael eu hawdurdodi i dalu’r perthynas naill ai—
(a)am ddarparu gofal a chymorth i A; neu
(b)am gynorthwyo A i reoli’r taliadau.
(3) Wrth ystyried a yw’n angenrheidiol i hyrwyddo llesiant A yn unol â pharagraff (1), rhaid i awdurdod lleol ystyried barn A a barn y personau eraill a grybwyllir yn rheoliad 11(3).
(4) Pan na fo awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol hyrwyddo llesiant A, rhaid iddo osod amod nad yw taliadau uniongyrchol i’w defnyddio i dalu perthynas i A sy’n byw ar yr un aelwyd.
7.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 50 o’r Ddeddf i P am nad oes gan A alluedd, rhaid iddo osod amodau fel y’u nodir yn y rheoliad hwn.
(2) Yr amodau yw bod P—
(a)yn gweithredu er lles pennaf A wrth sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu; a
(b)yn hysbysu’r awdurdod lleol os yw P yn credu nad yw A bellach heb alluedd.
(3) Pan fo’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol osod hefyd amod bod P yn cael—
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 gan gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” gan adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu blant (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” gan adran 113BA o’r Ddeddf honno); neu
(b)gwiriad bod tystysgrif foddhaol o’r math hwnnw wedi ei chael,
mewn cysylltiad ag unrhyw berson y sicrheir gwasanaeth oddi wrtho a hwnnw’n wasanaeth y gwneir taliadau uniongyrchol amdano.
(4) Yr amgylchiadau pan fo rhaid i awdurdod lleol osod yr amod ym mharagraff (3) yw nad yw P—
(a)yn berthynas i A; na
(b)yn gyfaill i A sy’n ymwneud â darparu gofal ar gyfer A.
8.—(1) Caiff awdurdod lleol wneud taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau pellach.
(2) Caiff amodau a osodir o dan baragraff (1), er enghraifft, gynnwys gofyniad—
(a)na chaniateir i’r anghenion y mae taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad â hwy gael eu diwallu gan berson penodol;
(b)bod rhaid i dderbynnydd y taliadau ddarparu gwybodaeth y mae ar yr awdurdod lleol angen rhesymol ei chael at ddibenion sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A.
(3) Ni chaiff amod a osodir o dan baragraff (2)(a) ei gwneud yn ofynnol mai dim ond gan berson penodol y caniateir i anghenion A gael eu diwallu.
9.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gwneud taliadau uniongyrchol, pa un ai o dan reoliad 2 neu reoliad 14 o’r Rheoliadau hyn(8), rhaid iddo benderfynu pa un ai i’w gwneud fel taliadau net neu daliadau gros.
(2) Wrth benderfynu pa un ai i wneud taliadau net neu daliadau gros rhaid i awdurdod lleol ystyried yr effaith ar A gan roi sylw i amgylchiadau ariannol A.
10. Caiff awdurdod lleol derfynu ei drefniadau ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i’r cyfan neu ran o’r taliadau uniongyrchol y mae wedi eu gwneud gael ei ad-dalu neu ei had-dalu os yw wedi ei fodloni naill ai—
(a)nad yw’r taliadau wedi eu defnyddio i ddiwallu’r angen y maent yn ymwneud ag ef; neu
(b)nad ydys wedi cydymffurfio ag amod a osodwyd o dan reoliad 6, 7, 8 neu 14.
11.—(1) Rhaid i awdurdod lleol adolygu’r trefniadau ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol a’r defnydd sy’n cael ei wneud ohonynt—
(a)fesul ysbaid y mae’r awdurdod lleol yn dyfarnu ei bod yn briodol ar ddechrau gwneud taliadau uniongyrchol i A, gan roi sylw i amgylchiadau achos A;
(b)pan fydd A neu P yn galw am adolygiad;
(c)pan fydd yr awdurdod lleol yn galw am adolygiad oherwydd—
(i)ei fod yn pryderu nad yw’r defnydd sy’n cael ei wneud o’r taliadau uniongyrchol yn diwallu anghenion A;
(ii)ei fod yn pryderu nad ydys yn cydymffurfio ag amod sydd wedi ei osod ar wneud y taliadau; neu
(iii)bod newid sylweddol yn amgylchiadau A neu P; a
(d)sut bynnag, fesul ysbaid nad yw’n hwy na—
(i)6 mis ar ôl gwneud y taliad cyntaf; a
(ii)12 mis yn dilyn yr adolygiad cyntaf.
(2) Pan fo A, P neu’r awdurdod lleol yn galw am adolygiad o dan baragraff (1)(b) neu (c), estynnir yn unol â hynny y cyfnod cyn bod yr adolygiad nesaf i fod i ddigwydd.
(3) Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys—
(a)A;
(b)P (pan fo taliadau i’w gwneud i P);
(c)unrhyw ofalwr dros A;
(d)(i)unrhyw berson y mae A yn gofyn i’r awdurdod lleol ei gynnwys;
(ii)os yw A yn oedolyn nad oes ganddo alluedd i benderfynu pwy i’w gynnwys, unrhyw berson a awdurdodir o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005 i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth;
(iii)os yw A yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd i benderfynu pwy i’w gynnwys—
(aa)unrhyw berson a awdurdodir i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005; neu
(bb)person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A;
(iv)os yw A yn blentyn o dan 16 oed, rhiant A neu berson arall mewn rôl rhiant; ac
(e)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod ganddo ymglymiad digonol yn y trefniadau gofal neu gymorth ar gyfer A.
(4) Nid yw’r gofyniad i gynnwys rhiant neu berson arall mewn rôl rhiant mewn adolygiad o dan baragraff (3)(d)(iv) yn gymwys pan fyddai cynnwys y person hwnnw, ym marn yr awdurdod lleol, yn anghyson â llesiant y plentyn.
(5) Yn y rheoliad hwn mae “person mewn rôl rhiant” (“person in a parental role”) yn cynnwys rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant neu berson arall sy’n gofalu am y plentyn.
12.—(1) Pan fo A yn blentyn a bod awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 51 o’r Ddeddf tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol, os yw’r amod ym mharagraff (2) wedi ei fodloni, fodloni gan hynny ofynion paragraff (3).
(2) Yr amod yn y paragraff hwn yw bod naill ai A neu P yn cael—
(a)cymhorthdal incwm o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(9);
(b)unrhyw elfen o gredyd treth plant ac eithrio’r elfen deuluol;
(c)credyd treth gwaith;
(d)lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;
(e)lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm; neu
(f)credyd cynhwysol.
(3) Y gofynion yn y paragraff hwn yw—
(a)bod rhaid i’r awdurdod lleol wneud y taliadau ar y raddfa y mae’n amcangyfrif ei bod yn gost resymol darpariaeth i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth y gwneir y taliadau mewn cysylltiad â hwy; a
(b)na chaniateir i’r awdurdod lleol wneud y taliadau yn ddarostyngedig i unrhyw amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn A, neu dderbynnydd y taliad P, dalu unrhyw swm i’r awdurdod ar ffurf ad-daliad.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)dehonglir “credyd treth plant” (“child tax credit”) yn unol ag adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002(10) ac mae i “elfen deuluol” yr un ystyr a roddir i “family element” yn adran 9(3) o’r Ddeddf honno;
(b)dehonglir “credyd treth gwaith” (“working tax credit”) yn unol ag adrannau 10 i 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
(c)mae i “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” yr ystyr a roddir i “income-based jobseeker’s allowance” yn adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(11);
(d)ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(12) (lwfans cyflogaeth a chymorth);
(e)dehonglir “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(13).
13.—(1) Nid oes rhaid i awdurdod lleol derfynu’r arfer o wneud taliadau uniongyrchol o dan adran 50 o’r Ddeddf mewn perthynas ag A pan fo A yn oedolyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddo a bod un o’r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo A yn oedolyn y bodlonwyd amod 1 yn is-adran (3)(b) o adran 50 o’r Ddeddf mewn perthynas ag ef oherwydd yr oedd ganddo alluedd i gydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud ar yr adeg y dechreuodd y trefniant, ond ei fod wedi colli’r galluedd wedi hynny.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo naill ai—
(a)yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod colled A o’r galluedd i gydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud yn golled dros dro a bod naill ai—
(i)cyfnod neu gyfnodau colli’r galluedd yn annhebyg o effeithio ar allu A i reoli’r taliadau; neu
(ii)person arall y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn gallu rheoli’r taliadau yn fodlon derbyn a rheoli’r taliadau ar ran A yn ystod cyfnodau diffyg galluedd A; neu
(b)amod 2 yn is-adran (4) o adran 50 o’r Ddeddf wedi ei fodloni.
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i bersonau a restrir yn yr Atodlen.
(2) Caiff awdurdod lleol wneud taliad uniongyrchol i berson y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ond dim ond os yw’n gosod amodau yn y termau a nodir ym mharagraff (3) a bod yr amod pellach ym mharagraff (4) yn cael ei fodloni.
(3) Yr amodau y mae’n rhaid eu gosod yw—
(a)bod A yn cytuno ac yn parhau i gytuno bod taliadau yn cael eu gwneud i berson (“B”) er mwyn iddo eu rheoli ar ran A; a
(b)bod B yn cytuno ac yn parhau i gytuno i gael y taliadau ac i reoli’r taliadau er mwyn diwallu anghenion A am ofal a chymorth.
(4) Yr amod pellach yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod B yn berson priodol i gael a rheoli taliadau ar ran A.
15.—(1) Pan fo awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer person o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(14) a bod yr amodau yn adrannau 50, 51 a 52 o’r Ddeddf (fel y’u haddaswyd gan Atodlen A1) wedi eu bodloni, yna rhaid iddo wneud taliadau uniongyrchol i gyflawni ei ddyletswydd.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i daliadau uniongyrchol a wneir wrth gyflawni dyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gyda’r addasiadau canlynol.
(3) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “ôl-ofal” (“after-care”) neu “gwasanaethau ôl-ofal” (“after-care services”) i’w dehongli yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
(4) Yn rheoliad 3 dileer y geiriau “diwallu’r anghenion, neu’r agwedd honno ar yr anghenion, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy neu hi” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu’r agwedd honno ar y ddyletswydd, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hi”.
(5) (a) Yn rheoliad 4(1)(a) dileer y geiriau “diwallu anghenion A am ofal a chymorth,” a rhodder yn eu lle “darparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”;
(b)yn rheoliad 4(1)(b) dileer y geiriau “ddiwallu anghenion A” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”;
(c)yn rheoliad 4(2)(a) dileer y geiriau “diwallu’r anghenion hynny” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd”; a
(d)hepgorer rheoliad 4(2)(g).
(6) Yn rheoliad 5 dileer y geiriau “ddiwallu anghenion” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd tuag at”.
(7) Yn rheoliad 6(2)(a) dileer y geiriau “gofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “ôl-ofal”.
(8) Yn rheoliad 7(2)(a) dileer y geiriau “gofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “gwasanaethau ôl-ofal”.
(9) (a) Yn rheoliad 8(2)(a) dileer y geiriau “anghenion y mae taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad â hwy gael eu diwallu” a rhodder yn eu lle “gwasanaethau ôl-ofal y gwneir taliadau mewn cysylltiad â hwy gael eu darparu”;
(b)yn rheoliad 8(2)(b) dileer y geiriau “ddiwallu anghenion A” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd tuag at A”; ac
(c)yn rheoliad 8(3) dileer y geiriau “caniateir i anghenion A gael eu diwallu” a rhodder yn eu lle “caniateir i wasanaethau ôl-ofal gael eu darparu”.
(10) Hepgorer rheoliad 9.
(11) Yn rheoliad 10(a) dileer y geiriau “ddiwallu’r angen” a rhodder yn eu lle “ddarparu’r gwasanaeth ôl-ofal”.
(12) (a) Yn rheoliad 11(1)(c)(i) dileer y geiriau “diwallu anghenion” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd tuag at”;
(b)yn rheoliad 11(3)(d)(ii) dileer y geiriau “ofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “ôl-ofal”.
(13) Hepgorer rheoliad 12.
(14) Yn rheoliad 14(3)(b) dileer y geiriau “diwallu anghenion A am ofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “darparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer A”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2015
Rheoliad 14(1)
Mae’r Atodlen hon yn gymwys i berson os yw—
(a)yn destun gofyniad adsefydlu cyffuriau, fel y diffinnir “drug rehabilitation requirement” gan adran 209 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(15), a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o’r Ddeddf honno, neu gan ddedfryd ohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” gan adran 189 o’r Ddeddf honno;
(b)yn destun gofyniad triniaeth alcohol fel y diffinnir “alcohol treatment requirement” gan adran 212 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o’r Ddeddf honno neu gan ddedfryd ohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” gan adran 189 o’r Ddeddf honno;
(c)wedi ei ryddhau ar drwydded o dan Ran 2 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991(16), Pennod 6 o Ran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 neu Bennod 2 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 1997(17), yn ddarostyngedig i amod trwydded ansafonol sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y troseddwr yn ymgymryd â gwaith ymddygiad troseddol i fynd i’r afael ag ymddygiad sy’n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol;
(d)o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gorchymyn adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community rehabilitation order” gan adran 41 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(18) neu orchymyn cosbi ac adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community punishment and rehabilitation order” gan adran 51 o’r Ddeddf honno;
(e)yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau a osodwyd o dan adran 52 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000;
(f)o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad mewn gorchymyn prawf o fewn yr ystyr a roddir i “probation order” gan adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(19) neu yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau o fewn yr ystyr a roddir i “drug treatment and testing order” gan adran 234B o’r Ddeddf honno; neu
(g)wedi ei ryddhau ar drwydded o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989(20) neu o dan adran 1 neu 1AA o Ddeddf Carcharorion ac Achosion Troseddol (Yr Alban) 1993(21) ac yn ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth am ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol neu pan ganiateir i awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (“y Ddeddf”) fel ffordd o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth.
Mae rheoliad 2 yn nodi’r amgylchiadau pan fydd awdurdodau lleol o dan ddyletswydd i wneud taliadau uniongyrchol. Bydd y ddyletswydd yn gymwys ym mhob achos pan fydd yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 50, 51 neu 52 o’r Ddeddf wedi eu bodloni ac eithrio mewn achosion y mae rheoliad 14 yn gymwys iddynt. Mae rheoliad 3 yn darparu bod gwneud taliadau uniongyrchol yn cyflawni swyddogaeth awdurdod lleol (pa un a yw’n ddyletswydd neu’n ddisgresiwn) i ddiwallu anghenion gofal a chymorth.
Mae rheoliad 4 yn cyflawni’r gofyniad yn adran 53(5) o’r Ddeddf bod y Rheoliadau’n cynnwys darpariaeth ynglŷn â’r camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i alluogi pobl i wneud dewisiadau deallus ynghylch taliadau uniongyrchol.
Mae rheoliad 5 yn nodi rhai camau ychwanegol y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd os nad oes galluedd gan y person y mae’r taliadau i’w gwneud er ei les.
Mae rheoliad 6 yn nodi yr amgylchiadau pan ganiateir i daliadau uniongyrchol gael eu defnyddio i dalu person sy’n berthynas ac sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person y maent yn cael eu gwneud er ei les. Mae rheoliad 7 yn gosod gofyniad sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau uniongyrchol fod yn ddarostyngedig i amodau pan na fo galluedd gan y person y maent yn cael eu gwneud er ei les.
Mae rheoliad 8 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benderfynu pa un ai i wneud taliadau fel taliadau gros neu daliadau net ac ystyried amgylchiadau ariannol person wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 10 yn nodi pryd y caiff awdurdod lleol derfynu’r trefniadau ar gyfer taliadau uniongyrchol a’i gwneud yn ofynnol iddynt gael eu had-dalu.
Mae rheoliad 11 yn creu gofynion ynghylch amlder adolygiadau a’r bobl y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu cynnwys yn yr adolygiad.
Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth i gydymffurfio â’r gofyniad yn adran 53(7) o’r Ddeddf bod rhaid i’r Rheoliadau bennu’r budd-daliadau y byddai eu cael yn cymhwyso person i gael taliadau uniongyrchol heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw gyfraniad.
Mae rheoliad 13 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â therfynu taliadau uniongyrchol os yw oedolyn y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud iddo yn colli ei alluedd.
Mae rheoliad 14 yn gymwys mewn perthynas ag ystod o bersonau sy’n ddarostyngedig i ofynion sy’n cael eu gwneud drwy orchmynion yn y system cyfiawnder troseddol neu ofynion trwydded ar ôl dedfryd ac sy’n ymwneud â defnydd y person o gyffuriau neu alcohol. Mae awdurdodau lleol yn cael gwneud taliadau uniongyrchol i’r personau hyn ond ni chânt wneud hynny ond ar yr amod y gwneir taliad i berson arall sy’n addas a bod y ddau berson yn cytuno â’r trefniant.
Mae rheoliad 15 yn nodi’r addasiadau sy’n gymwys i bersonau y mae hawlogaeth ganddynt i gael gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf wedi eu haddasu mewn perthynas â phersonau y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddynt gan y darpariaethau yn Atodlen A1 i’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adran 75 o Ddeddf Gofal 2014 (p. 23) a Rhan 2 o Atodlen 4 iddi).
Mae “person addas” wedi ei ddiffinio yn adran 50(5) o’r Ddeddf.
Mae “cyfrifoldeb rhiant” wedi ei ddiffinio yn adran 197(1) o’r Ddeddf drwy gyfeirio at adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41)>.
Un o’r amodau ar gyfer sbarduno gofyniad neu ddisgresiwn i wneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y person – gweler adrannau 50(3)(c)(i), 50(4)(d)(i), 51(5)(a) a 52(5)(a) o’r Ddeddf.
Cyn gwneud penderfyniad ynghylch pa un ai i wneud taliadau uniongyrchol bydd awdurdod lleol wedi cynnal asesiad ariannol yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1844 (Cy. 272)) a bydd wedi gwneud dyfarniad yn unol â rheoliad 20 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1843 (Cy. 271)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: