xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn Cychwyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (“Deddf 2014”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Hydref 2015 adran 1 o Ddeddf 2014.

Mae adran 1 o Ddeddf 2014 yn mewnosod is-adran (1A) yn adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (mabwysiadu cyn cychwyn: gwybodaeth) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau at ddiben hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 a pherthnasau’r person hwnnw.