xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
16 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 139(2)(b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Cychwyn) (Cymru) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Daw adran 1 o Ddeddf 2014 i rym ar 19 Hydref 2015.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn Cychwyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (“Deddf 2014”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Hydref 2015 adran 1 o Ddeddf 2014.
Mae adran 1 o Ddeddf 2014 yn mewnosod is-adran (1A) yn adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (mabwysiadu cyn cychwyn: gwybodaeth) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau at ddiben hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 a pherthnasau’r person hwnnw.