Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Cychwyn) (Cymru) 2015
Enwi, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Cychwyn) (Cymru) 2015.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014.
(3)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn2.
Daw adran 1 o Ddeddf 2014 i rym ar 19 Hydref 2015.
Mae’r Gorchymyn Cychwyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (“Deddf 2014”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Hydref 2015 adran 1 o Ddeddf 2014.
Mae adran 1 o Ddeddf 2014 yn mewnosod is-adran (1A) yn adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (mabwysiadu cyn cychwyn: gwybodaeth) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau at ddiben hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 a pherthnasau’r person hwnnw.