2015 Rhif 1803 (Cy. 258)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) (Rhif 2) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 133(1) a (2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) (Rhif 2) 2015.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Tachwedd 2015.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod o’r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol;

  • ystyr “y Bwrdd Cenedlaethol” (“the National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol;

  • ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw bwrdd diogelu a sefydlir o dan adran 134 o’r Ddeddf;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cyfansoddiad3

1

Mae’r Bwrdd Cenedlaethol i’w ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o aelodau’r Bwrdd yn gadeirydd y Bwrdd Cenedlaethol.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu’r telerau y penodir aelodau’r Bwrdd odanynt.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu staff ac adnoddau eraill i gynorthwyo’r Bwrdd Cenedlaethol i gyflawni ei swyddogaethau.

Trafodion mewn cyfarfodydd4

1

Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol ethol un o’i aelodau yn is-gadeirydd.

2

Mae’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd i lywyddu yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

3

Mae’r Bwrdd Cenedlaethol i wneud penderfyniadau drwy bleidlais mwyafrif syml o aelodau’r Bwrdd sy’n bresennol; mae’r person sy’n llywyddu yn y cyfarfod i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.

4

3 aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys y person sy’n llywyddu, yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

5

Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol gadw cofnodion o’i gyfarfodydd a chofrestr o fuddiannau aelodau’r Bwrdd.

Grwpiau atodol a sefydlir gan y Bwrdd Cenedlaethol5

1

Caiff y Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried—

a

materion penodol,

b

materion sy’n ymwneud â diogelu plant yn unig, neu

c

materion sy’n ymwneud â diogelu oedolion yn unig,

ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd Cenedlaethol.

2

Caniateir i grŵp o’r fath gael ei ffurfio o’r canlynol—

a

aelodau’r Bwrdd yn unig,

b

personau nad ydynt yn aelodau ac un neu fwy o aelodau’r Bwrdd, neu

c

dim ond personau nad ydynt yn aelodau.

Cyfarfodydd rhwng aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol a chadeiryddion Byrddau Diogelu6

Rhaid i un neu fwy o aelodau’r Bwrdd wahodd cadeiryddion y Byrddau Diogelu, a gwneud trefniadau i gyfarfod â hwy o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Ymgynghori â phobl yr effeithir arnynt7

Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod, o leiaf unwaith y flwyddyn, â grŵp o bersonau sy’n cynrychioli’r rhai y gall trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru effeithio arnynt.

Adroddiad blynyddol8

1

Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol gyflwyno ei adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Hydref bob blwyddyn, mewn cysylltiad â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth blaenorol.

2

Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

a

unrhyw gymorth a chyngor a roddwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol i’r Byrddau Diogelu;

b

unrhyw waith arall a wnaed gan y Bwrdd Cenedlaethol, neu gan grwpiau atodol a sefydlwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol, a’r canlyniadau a sicrhawyd;

c

digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau a wnaed gan y Byrddau Diogelu i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, gan gynnwys—

i

y gwersi a ddysgwyd oddi wrth adolygiadau ymarfer plant ac adolygiadau ymarfer oedolion a gynhaliwyd gan Fyrddau Diogelu ac oddi wrth adolygiadau ac ymchwiliadau eraill;

ii

enghreifftiau o adegau pan gafodd dysgu, gwybodaeth ac adnoddau eu rhannu rhwng Byrddau Diogelu o fewn ardal Bwrdd Diogelu neu rhwng Byrddau Diogelu ledled Cymru;

iii

enghreifftiau o fesurau effeithiol y mae Byrddau Diogelu wedi eu cymryd i roi i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gyfle i gymryd rhan mewn gwaith Bwrdd Diogelu;

d

unrhyw argymhellion y mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn dymuno eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol roi’r adroddiad blynyddol ar gael i’r cyhoedd heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y cafodd ei gyflwyno.

4

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “adolygiad ymarfer plant” (“child practice review”) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 20152 sy’n ymwneud â phlentyn; a

b

ystyr “adolygiad ymarfer oedolion” (“adult practice review”) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 sy’n ymwneud ag oedolyn.

Dirymu9

Mae Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 20153 wedi eu dirymu.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlir o dan adran 132 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Bwrdd Cenedlaethol i’w ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer trafodion yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

Mae rheoliad 5 yn darparu i’r Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried materion penodol ac i adrodd arnynt.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod â chadeiryddion y Byrddau Diogelu o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Cenedlaethol gynnal cyfarfodydd ymgynghori blynyddol.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod yr wybodaeth i’w chynnwys yn adroddiad blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol ac yn darparu ynglŷn â’r amseroedd ar gyfer llunio’r adroddiad a’i gyhoeddi.

Mae rheoliad 9 yn dirymu Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.