Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 20058
Yn rheoliad 8 (feto gan berson mabwysiedig)—
a
yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Mae feto yn gymwys mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol—
a
os naill ai’r person mabwysiedig neu berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig yw’r gwrthrych; a
b
os yw’r person mabwysiedig wedi hysbysu’r asiantaeth fabwysiadu briodol yn ysgrifenedig—
i
nad yw’n dymuno i asiantaeth gyfryngol gysylltu ag ef mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn; neu
ii
nad yw’n dymuno i gyswllt gael ei wneud ag ef ond o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig.
b
hepgorer paragraff (3); ac
c
ar y diwedd mewnosoder—
4
Bernir bod feto sy’n gymwys yn rhinwedd hysbysiad a roddwyd cyn 10 Tachwedd 2015 yn gymwys i unrhyw gais a wnaed gan berthynas i’r person mabwysiedig o dan y Rheoliadau hyn.