Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 20057
Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—
Cyfyngiadau ar fwrw ymlaen â chais5A
1
Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii).
2
Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais—
a
os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii); neu
b
os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.
3
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.
4
Caiff asiantaeth gyfryngol fwrw ymlaen â chais o dan baragraff (3)—
a
os yw’r asiantaeth gyfryngol wedi cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i’r person mabwysiedig ond ei bod wedi methu gwneud hynny; neu
b
pan fo—
i
y ceisydd naill ai yn briod, plentyn, ŵyr, wyres, gorwyr neu orwyres i’r person mabwysiedig; a
ii
y ceisydd yn ceisio cysylltu â’r perthynas i’r person mabwysiedig dim ond i gael gwybodaeth am hanes meddygol perthnasau’r person mabwysiedig.
5
Pan fo paragraff (4)(b) yn gymwys, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a fyddai, o’i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y person y’i datgelir iddo, yn galluogi’r person mabwysiedig, unrhyw berthynas i’r person mabwysiedig neu unrhyw berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig i gael ei adnabod neu ei olrhain.
6
Nid yw unrhyw ofyniad o dan y rheoliad hwn i’r person mabwysiedig gydsynio i gais fynd yn ei flaen yn gymwys—
a
os yw’r person mabwysiedig wedi marw; neu
b
os yw’r asiantaeth gyfryngol yn penderfynu na all y person mabwysiedig roi cydsyniad deallus.
7
Pan fo’n ofynnol cael cydsyniad y person mabwysiedig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y person mabwysiedig ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad deallus.