Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 20056
Yn rheoliad 5—
a
yn y pennawd yn lle “Blaenoriaeth i fabwysiadau cyn 1976” rhodder “Ceisiadau y caniateir eu derbyn”;
b
yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff asiantaeth gyfryngol dderbyn cais—
a
oddi wrth berson mabwysiedig am gynhorthwy i gael gwybodaeth am fabwysiad y person hwnnw ac i gysylltu â pherthynas i’r person hwnnw;
b
oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu—
i
â’r person mabwysiedig; neu
ii
â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig; neu
c
oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i berson mabwysiedig.
c
hepgorer paragraff (2);
d
ym mharagraff (3) ar ôl “paragraff (1)” hepgorer “a (2)”.