Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 20055
Yn rheoliad 4 (ystyr “gwasanaeth cyfryngol” ac “asiantaeth gyfryngol”) yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth a ddarperir at ddibenion—
a
cynorthwyo personau mabwysiedig i gael gwybodaeth mewn perthynas â’u mabwysiad;
b
hwyluso cyswllt rhwng personau mabwysiedig a’u perthnasau; ac
c
hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig a pherthnasau i’r person mabwysiedig.