Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 20053
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
a
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
ystyr “darpariaeth Seisnig gyfatebol” (“corresponding Englishprovision”) o ran Rhan neu reoliad yn y Rheoliadau hyn, yw darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 o Ddeddf 2002 sy’n cyfateb i’r Rhan honno neu’r rheoliad hwnnw;
ystyr “person mabwysiedig” (“adopted person”) yw person a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 ac sydd wedi cyrraedd 18 oed;
mae i “perthynas ragnodedig” (“prescribed relationship”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2A;
b
yn lle’r diffiniad o “y ceisydd” (“the applicant”) rhodder—
ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 5 ac sydd—
- a
yn berson mabwysiedig;
- b
yn berson sydd â pherthynas ragnodedig; neu
- c
yn berthynas i berson mabwysiedig;