Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 200516
Yn rheoliad 18 (ffioedd) yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Caiff y Cofrestrydd Cyffredinol godi’r ffioedd a ganlyn ar asiantaeth gyfryngol mewn cysylltiad â cheisiadau am wybodaeth o dan reoliad 13 neu 14—
a
£36 am brosesu cais cychwynnol am wybodaeth (p’un a ddarperir gwybodaeth ai peidio);
b
£14 am ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i unrhyw gais dilynol a wneir mewn perthynas â’r un ceisydd.