Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 200513
Yn rheoliad 13 (cael gwybodaeth oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol)—
a
yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Caiff asiantaeth gyfryngol wneud cais yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am ba wybodaeth bynnag o blith y canlynol a all ei chynorthwyo at ddibenion bwrw ymlaen â chais o dan y Rheoliadau hyn—
a
hunaniaeth yr asiantaeth fabwysiadu briodol;
b
manylion y llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu;
c
gwybodaeth a all fod gan y Cofrestrydd Cyffredinol a fyddai’n galluogi cais i gael ei wneud am dystysgrif o’r Gofrestr Plant Mabwysiedig;
d
gwybodaeth o’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.
b
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Os oes asiantaeth gyfryngol yn bwrw ymlaen â chais o dan reoliad 5(1)(c), caiff hefyd wneud cais yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth y gallai fod gan y Cofrestrydd Cyffredinol a fyddai’n galluogi’r person mabwysiedig y mae gan y ceisydd berthynas ragnodedig ag ef i gael copi ardystiedig o’r cofnod o’i enedigaeth.